Fry yn y nen
mae seren wen
yn fy nenu.
Dilynaf ei golau
ac mae hithau
uwchben yn gwenu.
Er tywynnu, 'does modd
claddu'r celwyddau,
hollti wnaeth y frwynen...
Ond drwy y nos
yn fud ar y rhos
mewn llesmair arhosaf.
Wele'n fy ysbrydoli
wrth iddi daenu'i
hud arian amdanaf.
Ond daw niwl, af
i feddwl am y ferch,
fe ddilfanna'r seren...