acnvbnr.gif (17863 bytes)


bothafan.gif (2645 bytes)
botcyntedd.gif (2668 bytes)
botgweith.gif (2698 bytes)
botoriel.gif (2634 bytes)
botstydi.gif (2665 bytes)
botpleid.gif (2771 bytes)
botseiat.gif (2605 bytes)
botllyfrym.gif (2804 bytes)
botdolen.gif (2657 bytes)
botgwers.gif (2636 bytes)
botcwis.gif (2617 bytes)
botarchif.gif (1918 bytes)

 

Cynnyrch Ymryson y Sesiwn Fawr

Trwy gydweithrediad Twm Morys a Gwen Lasarus

 Ymryson Sesiwn Fawr Dolgellau 2003 

MEURYN: TWM MORYS

SGORWRAIG: BETHAN GWANAS

CLWB RYGBI DOLGELLAU

Pnawn anhygoel o fywiog a hwyliog iawn. Roedd pawb wrth eu boddau yn gwrando ar y beirdd yn rhannu eu cerddi. Cipiwyd y darian eleni gan fardd ifanc 16 oed.

Llongyfarchiadau mawr iddo fo a gobeithio y bydd yn parhau i farddoni am hir eto.

Daeth criw mawr o feirdd i gystadlu 'leni, a phob un yn cael hwyl garw arni. Roedd y Meuryn wedi ei blesio… a dyma flas o’r cerddi ar gyfer mwyniant preswylwyr yr annedd.

Dyma’r gerdd o waith Geraint aeth â’r darian

 Pan ddaw’r môr dros Gader Idris
Ni fydd sôn am bentre Corris,
Callach byw ym Mwlch y Groes
Sych, y byddwch hyd eich oes.

Pan ddaw’r môr dros Gader Idris
‘Mlaen i foddi tref y Cofis,
Colled mawr ar lannau’r Wnion,
Colled llai yn Sir Gaernarfon!

 Pan ddaw’r môr dros Gader Idris,
Beth a wnawn â’r bardd Twm Morys?
Ei roi mewn arch fel 'rhen Noa
A’i anfon i gopa’r Wyddfa.

 Pan ddaw’r môr dros Gader Idris,
Pan mai pinc fydd lliw y Guiness,
Pan fydd machlud yn y bora,
Dyna ddydd y Sesiwn ola’.

 CWPLED YN CYNNWYS Y GAIR ‘GWAIR’

1af Tegwyn
2il Dewi Prysor
3ydd Arwyn Groe

 Y tractor a’r contractwyr
Sy’n y gwair lle chwysai’n gwyr.

 Os am bibell sy’n cellwair
Llawn gwell ei llenwi â gwair.

 

PENNILL TELYN

1 Geraint
2 Huw Erith
3 Nia Medi

 (gweler uchod)

Pan ddaw’r môr dros Gadair Idris,
Pan fydd dwr ymhobman megis,
Pan fydd morloi’n crwydro’r henfro
Fe fydd atal ar fewnlifo.

 

ENGLYN:CAWR

1 Tegwyn
2 Mei Mac
3 Dewi Prysor

 Yn nyddiau budr wleidydda’r corachod
Mae cawr uwch y dyrfa
a dawn dweud, mae un dyn da
mwy na dwylath - Mandela.

Mae, yn Sblot a Phontlotyn, hyd yn oed
Yn Nantes a Phrestatyn,
Mae yn Lloc ac ym Mhen Llyn
Fistar ar Mistar Mostyn.

 

LIMRIG:

1 Arwyn Groe
2 Huw Erith
3 Sara Gwyn

 Bob tro y bydd hwn yn beirniadu
Bydd Prysor yn siwr o orchfygu
‘fo limrig am eliyns
a spaceships a sosbyns
ac ambell un arall o’i deulu.

Bydd ellyllon y fall oll yn nadu
A beirdd o’r iawn ryw yn diflannu,
Ond bydd Tywysogion
Yn yr ornest yn gyson
Bob tro y bydd hwn yn beirniadu.

 

CÂN heb fod dros 12 llinell.

 1  Mair Tomos Ifans
2  Gwen Lasarus
3  pawb arall

 Mae’n na gythreuliaid ymhobman yn sesiwn
Cythreuliaid ymhobman yn hel
Ond y cythral mwyaf un ‘leni
Yw’r hen gythral 'na Alan Stivell.

Dwi’n cofio ei weld o ers talwm
Pan o’n i yn ifanc a ffôl,
A 'leni yn edrych 'mlaen yn ofnatsan
At ei gael yn 'rhen Gymru yn ôl.

 Ond er imi dalu pymtheg o bunnoedd
A sefyll o dan ambarél
Ddaeth na 'run nodyn o grombil 'run telyn
Gan y cythral na Alan Stivell.

Mae cythreuliaid yn llechu mhobman
Mewn pybs a llefydd digon coman
Ond y llefydd gwaetha un
'Di ar ben llwyfan ar dy ben dy hun.

Cythral diflas, anghynnas iawn
Ydi cythral mewn dillad cyfiawn
Cysgu’r nos a chodi’r bora
A Duw a wyr be' mae’n neud yn pnawnia’.

Ond ni wn am gythral gwaeth
Na’r cythral hwnnw mewn gwisg ysglyfaeth
Ei wenwyn poethaf yw poergarthu
Ia, hen gythral drwg di’r cythral canu.

 

ATEB LLINELL AR Y PRYD

1 Arwyn Groe
2 Dewi Prysor
3 Tegwyn.

 Hyn sy isio mewn sesiwn
Rhywun iau na’r meuryn hwn.

Hyn sy isio mewn sesiwn
Sex a digonedd o swn.

 

ENGLYN AR Y PRYD:

1 Mei Mac

 Iaith o sêr di-doreth sydd - yn ola'
yn niwl yr Iwerydd
un gawod fawr dragywydd
yn disgyn, disgyn bob dydd.

 TREFNWYD Y PNAWN DAN NAWDD YR ACADEMI.

Gorffennaf 2003

cnvrule.gif (2354 bytes)