Y byd ffast yw byd y ffwˆl, – i wibiwr
‘does obaith o gwbwl.
Drwy wibio ei di i drwbwl,
y dyn call ydy’r dyn cwˆl.
Dyn cwˆl nid chwim fel bwled, – yn ei dîn
nid oes yr un roced,
cerddor sy’n hoffi cerdded,
wedyn snwˆs – dyna yw Sned.
Mae Sned yn gynt na rhedyn – yn tyfu,
cynt hefyd na locsyn,
ond os dychryni di’r dyn,
neidio ni fedar Edwin.
Edwin sy’n cwˆl drwy’r adeg, – y mae awr
fel mis i’r dyn glandeg,
Edwin yw’r dyn ara’ deg;
Edwin nid ydyw’n rhedeg.
Pam rhedeg, hedeg o hyd? – Dilyn Ed
a’i lôn o drwy fywyd:
yn arafwch ei reufyd,
Sned, heb oriau, biau’r byd.