acnvbnr.gif (17863 bytes)


bothafan.gif (2645 bytes)
botcyntedd.gif (2668 bytes)
botgweith.gif (2698 bytes)
botoriel.gif (2634 bytes)
botstydi.gif (2665 bytes)
botpleid.gif (2771 bytes)
botseiat.gif (2605 bytes)
botllyfrym.gif (2804 bytes)
botdolen.gif (2657 bytes)
botgwers.gif (2636 bytes)
botcwis.gif (2617 bytes)
botarchif.gif (1918 bytes)

 

Alan Stivell

(gweld poster ohono'n cyngherdda wrth gerdded drwy dref yn llydaw ar fore glawog)

Aneirin Karadog

Daw hil yn fyw â'i delyn,
a'i thiwn dlos fin nos fan hyn
yn llawn gwres i'n cynhesu,
fe ddaw â haul i'r nos ddu.

Y bobl oll yn rhoddi bloedd
a'r ias ym mît yr oesoedd
yn cynnau y gig heno,
dawn oes sy'n ei dannau o.

Rheg o ing ddaw drwy'r gyngerdd
a gwaedd sy'n gymysg â'r gerdd,
hen waedd sy'n fyw'n weddi -
â rhin hon drwy f'esgyrn i.

Daw'r glwyf yn ôl gyda'r glaw
a'r dolur hyd ei alaw,
yn llef ddwys am golli iaith,
yn aberth llawn o obaith.

Yn atgofion ohono -
rhuo cân yn gwau drwy'r co',
ei lais yn hawlio ei le
a'r hwyl yn dod o rywle...

drwy'i boster â''i bib astud
rhed ias cyffroad o hyd.

Ionawr 2001

cnvrule.gif (2354 bytes)