Storm
Aneirin Karadog
Daeth y gerdd hon yn ail yng
nghystadleuaeth y gadair yn Eisteddfod yr Urdd 2002
“To be
or not to be, that is the question.” – Hamlet, William Shakespeare.
Wele’r bardd
ar fryncyn ‘da’i feiro er encil,
yn baglu dros ddelweddau,
yn ceisio eugwau â geiriau
a chreu methiannau dro ar ôl tro –
sgriblo a sgriblo drachefn
heb drefn wrth ddriblo
drwy ei feddyliau…
…Uwch
ei ben
ysmygai duw’r awyr yn drwm
y prynhawn hwnnw,
disgynnai dagrau o’i ruddiau’n
ysbeidiol dros y caeau
a thros bapur y bardd, yn blotshio’i
inc yn draed moch.
…Yna, mor sydyn â chwinciad…
Try
duw’r awyr ei ddagrau’n
fwledi wrth iddi bistyllu.
Tro’r bardd am adre’n
waglaw heb syniad,
heb
linell, heb odl, heb ddim,
fel petai ei feiro wedi colli pob
cof ac atgof o sut i fod yn feiro!
Ymadael wna’r mudan
heb swyn yr awen yn cymylu’i feddwl.
Y Gymraeg:
Mae eto storm yn fy mwyta’n
fyw fel
sahara’n consurio
awr fy nifodiant,
Yn rhoi ei fin i’w voodoo.
Nid oes gennyf rhagor gysgod
rhag y dilyw pigog di-ddarfod;
Bellach, f’achubiaeth yw cardod.
Rhwygir y cregyn
ar y traethau
gan chwipio dyfriog duw’r awyr.
O dan y cymylau crac
feglywir hen dymer o dyrfedd yn
bwbachu ac yn chwydu llucheden
bob yn funud
i neidio arein cymunedau,
fel petai duw’r awyr yn chwarae
dartiau a’i bicellau llawn trydan,
yn bygwth mor bigog.
Y Bardd:
“Wrth imi dy wylio’n erydu gyda’th arfordiroedd
i lawr dyfnaf ebargofiant
drwy’r glaw a’r mwd,
un diwerth wyf iti’n y diwedd.
Sudda ‘nghalon
fel dau dwr yn dymchwel.”
Fe
gwyd y gwynt a’r glaw yn fraw â chwymp boncyffion.
Â’r cyfan yn chwythu i ffwrdd fel briwsion
rhed llifogydd mwdlyd yn fewnlif i ladd gobeithion.
Y
Bardd:
Er imi glywed drwy’r storm a’i glawio
y dolur yn dy alwad;
rhaid yw dianc heb drio deall:
Er mwyn dimau rhaid mynd o ’ma.
Heb ei
hieuainc, heb ei hawen,
Heb ei halaw na’i goslef llawen,
Heb rin yr un o’i dail ar bren,
Heb dir, be’ ydi derwen?
Heb obaith, heb waith, heb wên,
Heb anelau tra bo niwlen.
O beidio bod daw byd i ben.
A
hithau’n gorff sy’n prysur orffen,
ai tawel yw’r llu tu ôl i’r llen?
Y Gymraeg:
Mae dwndwr mewn mudandod;
wyf gywilydd prin ar dafodau’r
di-obaith eu cydwybod.
Heno mae gwae yn magu gwewyr
a minnau’n fy mhen fy hun
yn fôr astud o farw ystyr.
O ddannedd y
ddinas
ddieithr tu hwnt i’r ffin
fe ddaw anhunedd i
ddwyn yr awen o’i ddwylo.
Â’i
gyfalaf, fe â ar gyfeiliorn,
yn sipian y gwinoedd tanddaearol
ac yn blasu’r pleserau cnawdol
er ceisio anghofio’i orffennol.
Wedi
dihuno o freuddwyd ffôl,
I Gymru ‘da’r bore mae’n mynd yn ei ôl.
Yna,
o nunlle fe egyr y ffurfafen,
trywenir y cymylau gan waywffyn tanbaid yr heulwen -
wele’i rhubannau aur yn ail-ddeffro iaith y nef uwch ei ben.
Eistedda yno
ag islais ei goslef
yn rhaeadr o wefr drwyddo eto;
plymia i fyd y ddalen wen.
Wrth
iddo ymlwybro rhwng muriau gwyn ei blaned
ar hyd llwybr di-orffen
hen drawiad a throeon ei chystrawen,
fe glyw adlais, adlais ei gynghannedd,
hen drawiad sy’n dod â’r awen
eto i lifo o’i feiro’n eiriau,
yn llenwi pob un llinell
â swyn ei chytseiniaid,
yn ferw â’i llafariaid,
anadla swyn ei hodlau
a rhanna’i hawen o’r newydd.
Mehefin 2002