acnvbnr.gif (17863 bytes)


bothafan.gif (2645 bytes)
botcyntedd.gif (2668 bytes)
botgweith.gif (2698 bytes)
botoriel.gif (2634 bytes)
botstydi.gif (2665 bytes)
botpleid.gif (2771 bytes)
botseiat.gif (2605 bytes)
botllyfrym.gif (2804 bytes)
botdolen.gif (2657 bytes)
botgwers.gif (2636 bytes)
botcwis.gif (2617 bytes)
botarchif.gif (1918 bytes)

 

Storm

(Tymor y Cynhaeaf)

Eirug Salisbury

Daeth yr awdl hon yn gydradd drydydd yng nghystadleuaeth y gadair yn Eisteddfod yr Urdd 2002

Mae Mawrth a’i fedlam wrthi’n
Torri cwys yn y tir coch,
Taro ergyd drwy irgoch. 

Y cwm yn gaglog, a’r ci’n
Cyfarth wrth sodlau’r gwartheg, -
A chnwd yn cychwyn hedeg. 

Y cynhaeaf cnoi ewin,
Y disgwyl mud, a sigl maith
Yr yd yn creu ei frodwaith. 

Eto rhagor o hogi
Ac aredig, yr oedi
Arhosol, troi a throsi
O gwys i gwys, ac ysu
Gwaith a hafog, a thyfu
Mewn dymuniad, a mynnu
Trwch llaw,
                   cyn torchi llewys
I ddawns yr haidd, nes i’r us
Fwrw’r haf ar ei wefus! 

*          *          * 

Swn ystwyrian peiriannau
A swn min nos yn mwynhau,
Lleisiau’r hwyr yn ystwyrian
Yn y tir fel cynnau tân.

Cwr y clos fel cerrig glo,
Cwyn y brêc yn ei brocio. 

Trwst adar, trais a dadwrdd
Torri bwlch fel taro bwrdd.
Traw syndod dros ei weundir,
A mydrau storm dros ei dir.

 Crynhoi aceri newydd
Ym mhelydrau dechrau’r dydd,
A chrynhoi ei chriw yn ôl
Eleni yn olynol
I weryrru, y rhywrai
Cyflym eu herc fel eu Mai! 

Ond cyn i’r lle droi’n rediad
O fois gwyllt i faes y gad,
Mae’r llun melyn, am eiliad
O dawelwch yn delwi
Yn y buarth, cyfarth ci’n
Drwm ar dir, - storm ar dorri. 

 helynt yn nhro’r gwynt, gwyr
Y maes yn pwyso mesur
Cynhaeaf yr haf, a thro’r
Bore eisioes yn brysio … 

Torrai tractor trwy’i hectar, - torri rhes
Ôl traed pedwar teiar,
Ei arfwisg aur ar faes sgwâr,
Arogl llwch ar gae llachar.

O frys haf, aros i yfed, - cyn gwaith
Eilwaith a chwys caled
Lledu â llaw hyd a lled
Grynnau gwair yn agored,

A’r peiriant yna’n tynnu - cwys ar gwys
I’w gesail, cywasgu
A phowlio’i lwyth a phlethu
Tannau croes y cortyn cry’.

A dyma yfed! Mehefin y pen
Paned a swn chwerthin.
Côr yn crynhoi yw’n criw ni’n
Geg-agor lond y gegin!

 *          *          *

Ond pan fo’r tymor ar ei orau
A’i hyder ynom, hen daranau
Sy’n gwlychu’r awyr, gan sarhau
Y pŵer hwnnw mewn peiriannau.
Awyr y môr ym muriau’r gorllewin,
A’r glaw’n argoeli’n hen rigolau. 

Dulas yw’r das â chawod eisin
Wedi treiddio hyd at ei ruddin,
A thrwm yw haf a thir Mehefin
Ar gaeau’n rhygnu, rhoi ei egni’n
Crwydro acer, a drycin - yn dawel
Dan y gorwel yn donnau gerwin.

 *          *          *

Llygadu’r awyr. Ar wys y trowynt
Mae’r llu’n torchi llewys.
Ail-agor haf, hel ei grys
A rhegi. Codi gwregys.

Aeddfedu’n eisteddfodol - mae’r hogiau
Cymreig cystadleuol.
Undydd, un awydd yn ôl,
Dydd i fedi’i ddyfodol. 

Trysor gwlad lond y gadlas, - a’r hogiau
Yn gampau o’i gwmpas,
Meibion y tîm o ben tas
Yn cymhenu cymwynas.

Criw Cae’r Adwy sydd mwyach - yn gwthio
Yn gweithio’n gyflymach
Yn griw o gyhyrau iach,
Yn griw ifanc, yn gryfach.

Y seilio baich fesul bwrn - fyny i’w lle
Ar gefn llwyth, yr asgwrn
Gwledig a chryfder migwrn
Yn seilio dysg fesul dwrn.

Cawr can-acer yn cario’i bynnau’n ôl
Bob yn ail,dadlwytho’i
Gylla tynn, a’r gwellt heno’n
Pontio i’w top yn y to.

Cyd-eistedd yn niwedd prynhawn, - gorwel
A gwair bron yn gyflawn,
Dan y llwch y siediau’n llawn
A than eurwlith yn orlawn.

Mehefin 2002

cnvrule.gif (2354 bytes)