Cerdded hyd strydoedd Medi
yn fud liw nos a wnaf fi,
a 'dafedd niwlen denau
sydd o gar i gar yn gwau
yr hydref drwy'r hendref hon,
dan ei hawyr gwaed neon.
Gwn, o gwn im ganwaith
weld cochi y meini maith
yn ennyd rhyw nos Wener;
y mae 'na ias yn fy mêr
o gerdded strydoedd Medi
a'i hud di-esboniad hi.