|












| |
Taith
Aneirin Karadog
Hel meddyliau
a'i gwên yn gwau,
trên taranus,
fe red ar frys,
daw coed cadarn -
fe ânt heb farn,
daw diwedd dydd
a rhoi'r awydd.
Adref, cledrau
a swn nesáu,
ar wib, sibrwd
a rhai yn frwd.
hel meddyliau
a'i gwên yn gwau.
Hydref 2000
|