Tân
Ifan Prys Jones
Dyfarnwyd y gerdd hon yn drydydd yng nghystadleuaeth y gadair
yng Ngwyl yr Urdd 2001
"'Sgen ti dân,
hogan?" yn hy!
"Na sori!" yn sur!
"O! os felly ti 'sho ffag?"
"Na, na i dagu! Fynna i fyw!" a hynny fu.......bron
.......Elli di'm byw heb rai?
O fe elli?! Efallai!
O gwranda,
Stopia stiwpid,
Mae o'n boen mwya'n y byd,
Poen yn tin. Dwi 'di blino
Yn lân ar ei ogla o.
Hogla drwg, hogla mwg mawr
O dy awydd bob dwyawr.
Mae o'n afiach, mae'n evil
In case you mind makes me ill.
Mwg a mwy o fwg a fi
Druan wastad sy'n drewi.
Dwi yn meindio stincio 'sti?
Dirywiad; bod yn drewi!
Nei di farw, neu difaru
O gael dy wynt drwy'r glo du.
Amau fi?
Mae dwn i'm faint
Yn gafael yn d'ysgyfaint rwan.
O wnei di'm trio
I fi i roi'r gorau 'ddo fo?
Trio i ni?
Trio un waith?
..... O y lolyn, wel
eilwaith.
O wel yli, pam damia
Ti'r megin wynt â'r mwg 'na?
Ffag arall?
Ti ddim callach
Yn y bôn na hogyn bach.
'Cytio'i lawr cyn cwitio 'li ',
Dy ohirio, hen stori.
Sigarét; grêt dan y gro!
Gwell byth, gelli obeithio!
Deg marc, yndw dwi'n sarci
Y twat 'chos dwi'n caru ti.
Sigarét sy'n llosgi'r ias
A thanio ein perthynas
Yn ulw, yn lludw llwyd,
Mae o'n arson, mae'n arswyd.
"Gaddo, mi wnâi stopio
sti,"
A gwenu'n gynnil i'm seboni,
"Jest, mae'n anodd."
Wnâi 'm toddi.
" 'Dio 'myn hawdd, ond mi wna i!"
Eleni? Cyn priodi? Pryd?
Yn fuan? Yn dy fywyd?
Ti isho plant, bod yn santa,
Yn taid a nain? Paid deud na!
Un dydd mi fyddan ni'n dau
Am drio rhoi modrwyau
I'n gilydd, fel rhyw gwlwm,
Yn ffyddlon drwy'r llon a'r llwm.
Ti a fi yn tyfu i oed,
I wynnu yn ein henoed.
Trwy ein hoes a dim troi'n ôl,
Yn briod yn barhaol.
Ella wir?!
Ella wir?!!
Llo!
Dick 'ed!
Oes dim am dycio?!
Iawn, reit ta!
O neno'r tad!
Tria neu gei di'r trawiad
Mwya' erchyll, amharchus
A chei arch a marw'n chwys!
Dacw i ti eiriau y doctoriaid
"Paid a chwyno!"
Dwi'n pwdu; ochenaid...
"Pa les y poen? O Plis paid?" Yn surbwch.
Ceir rhyw dawelwch.
Paid smocio'r diawliaid!
Be 'di o i fi?!
Y bywyd fydd
I'w gael â ni 'fo'n gilydd;
Y rhes dwt o ashtrays du
un rhy hoff o wastraffu!
Pa wahaniaeth?
Mae punnoedd am ddileit
Rhoi am ddail oedd yn las
Wisg lliwiau rhyw fflam waedlyd,
Dyna 'di bedlam!
Iawn 'ta, mi dwi iso i ti
Addo rhoi'r gorau iddi!
Na?!
Wel iawn.
Dyna fo 'li,
Rhy hwyr,
Mae'n tân ar oeri!
"Dwi'n mynd i n'eud yn y
man!"
Rhy hwyr!
Dwi'n g'neud rwan!
Mehefin 2001