acnvbnr.gif (17863 bytes)


bothafan.gif (2645 bytes)
botcyntedd.gif (2668 bytes)
botgweith.gif (2698 bytes)
botoriel.gif (2634 bytes)
botstydi.gif (2665 bytes)
botpleid.gif (2771 bytes)
botseiat.gif (2605 bytes)
botllyfrym.gif (2804 bytes)
botdolen.gif (2657 bytes)
botgwers.gif (2636 bytes)
botcwis.gif (2617 bytes)
botarchif.gif (1918 bytes)

 

Te

Aneirin Karadog

Te o’r ne’ a’i anian iach,
Gêr i rafin fyw’n gryfach
A gyrru’n gawr lawr y lôn,
Y greal i’r goreuon,
Ateb hud i’r to pwdwr
(Byr yw’r dasg rôl berwi’r dwr)
Trwy bob awr, tra bo bore,
Bob cyfle - disgled o de!
Y ffisig i bob ffyswr
Rhag pob lol, hen ddwyfol ddwr,
Cwpanig nid yw’n ddigon -
‘Mond llond lle o de yn don,
Rhaid wrth laeth a rhaid wrth li
A’i lanw i ‘modloni!
Ffynnon loyw, dw^r croyw cred,
Dwr Sycharth i drai syched,
I’r cur yn ninistr
curry
Neu chow-mein bydd chai i mi.

 Te o fudd, mêt i feddwon -
Te’n lle’r gwydraid, llymaid llon,
Te â’i haf ar y tafod,
Te fy myw yn toi fy mod,
Te yw’r hit i arwr hardd,
Te prifiant, high pob prifardd,
Te cynnes ymhob tywydd,
Te i’r galon, ffynnon ffydd,
Tardd i’r corff yn treiddio’r co’,
Te o ‘mhair eto i ‘mhuro.

Chwefror 2004

cnvrule.gif (2354 bytes)