Tros feini Trawsfynydd
troediaf yn betrusgar
gan daflu'r cytseiniaid cyfarwydd
rhwng gwefus a dant:
rhy gyfarwydd yw'r geiriau,
rhy barod ar dafod,
yn ddim ond ploryn
ar adlais o wyneb glasoed.
Chwydaf y chweugain sillaf
ar gainc y gwynt:
eu llafariaid sy'n llif araf o law
dan goler fy nghot
a'u cytseiniaid sy'n sangu'r
brigau brau
a syrthiodd dan fy nhraed
o ganghennau'r gynghanedd.
Tros fawnog Trawsfynydd
clywaf gynghanedd y taranau'n
eco'n y gwacter,
yn atseinio'u cytseinedd
glec ar ôl clec.
Heno nid oes leuad borffor
yn gorff oer ar liain du;
dim ond dannedd y cymylau duon
yn ysgyrnygu'n gysgodion
dros d'Ysgwrn.
* * * * * * * * * * * * * * * * * * *
Do, rhedwyd dy rawd
a thithau'n drwm dan bridd tramor:
dros bedwar-ugain mlynedd mewn hedd hir
a gwn,
gwn na ddoi'n dy ôl
i droedio'r rhedyn,
i goflaid breichiau'th gadair.
Torrwyd dy gwys ar dy gyfer
ac, ar lasiad dy ddydd,
daeth hwnnw i ben.
A do, fe'th fwriwyd di i weryd Yr Arwr
mor gadarn gelain â mynyddoedd dy febyd,
mor sicr farw a chorff dy leuad borffor.
* * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *
Heno'n Nhrawsfynydd
gwyraf fy ngolwg tua'r gorwel:
â hithau'n gynfas o storom,
anodd yw tynnu'r llinell
rhwng diwedd y tir a dechrau'r nos;
rhed y lliwiau drwy'r tirlun
hyd nes i'r nos a'r tir ymdoddi
a'r gorwel droi'n anelwig yn yr olew:
yr hen linell bell nad yw'n bod
sy'n gorwedd rhwng y mynd a'r dod
yn ddiriaeth haniaethol,
yn weladwy anweledig,
yn derfyn diderfyn, du,
- diwedd diddiwedd yw.
* * * * * * * * * * * * * * * * * * * *
Ystyriaf ennyd y bardd:
yr ennyd honno sydd
rhwng dechrau a diwedd,
rhwng cwsg ac effro,
rhwng byw a marw
- mae enaid y byd mewn ennyd bardd.
Ac yng ngoleuni'r ennyd honno
ystyriaf dy farwolaeth di:
ennyd o lonyddwch a phoen
rhwng dechrau a diwedd;
o hiraeth ac ofn
rhwng cwsg ac effro;
o serch a chasineb
rhwng byw a marw.
Ai hyn oedd dy derfyn di?
Neu a oedd yno yn dy ddiwedd
rhyw ddechrau'n dechrau?
Yn dy fynd, rhyw ddod?
Yn dy farw, rhyw fyw?
* * * * * * * * * * * * * * * *
Mae cytseiniaid dy farwnad di
yn eco'n y gwacter
ac olew'r gorwel
yn ymdoddi'n gybolfa o liw:
wrth i'r taranau atseinio'u cytseinedd
glec ar ôl clec i'm clyw
ac wrth i'r llafariaid lifo'n araf
dan goler fy nghot
ymdeimlaf â'r ennyd honno
sy'n fyw heno'n Nhrawsfynydd:
ennyd tragwyddoldeb bardd.
* * * * * * * * * * * * * * * *
Heno'n Nhrawsfynydd
gwyraf fy ngolwg tua'r gorwel:
â hithau'n gynfas o storom,
anodd yw tynnu'r llinell
rhwng diwedd y tir a dechrau'r nos.