|












| |
O! Dad y Tragwyddoldeb Maith II
Iwan Rhys
O! Dad y tragwyddoldeb maith,
Fy nghrëwr mawr a'm Duw:
Creawdwr holl brydferthwch byd,
Creawdwr popeth byw;
Ond er it greu'r holl bethau gwych,
Ti grëodd bopeth gwael
A hynny sy'n esboniad teg
Am fodolaeth Cwm-Is-Fael.
Mehefin 2001
|