|












| |
Tra Medrwn
Mei Mac
O ystrydeb y Strade,
o dai rhad gwaelod y dre,
o'r gwin aeth yn ddagrau i gyd,
o oglau'r hen gôt fyglyd.
O ddweud lein, o gwmpeini
y Felin Foel ynof i,
a hen Brifwyl sy'n brifo,
a bardd yn ei ddici-bô.
O 'stafell fach Llanelli
o regfeydd Eirug a fi,
o'r criwiau hyrt, o'r cae crwn
awn am adref tra medrwn
Awst 2000
|