acnvbnr.gif (17863 bytes)


bothafan.gif (2645 bytes)
botcyntedd.gif (2668 bytes)
botgweith.gif (2698 bytes)
botoriel.gif (2634 bytes)
botstydi.gif (2665 bytes)
botpleid.gif (2771 bytes)
botseiat.gif (2605 bytes)
botllyfrym.gif (2804 bytes)
botdolen.gif (2657 bytes)
botgwers.gif (2636 bytes)
botcwis.gif (2617 bytes)
botarchif.gif (1918 bytes)

 

Mynd am Adref ar y Traws Cambria

Aneirin Karadog

Awelon Gwydion a chwyth drwy'r goedwig
yn hon fe dry'r holl gwynion yn ganig,
yn alaw y coed rwy'n ymlaciedig
dan yr haul a'i nodau lu'n enwedig,
yma'n hogi'r dychymyg am hydoedd -
wele oludoedd sy'n anweledig!

Yng nghangennau hedd fy nghynganeddion
fe gaf ryddid ymysg cyfareddion
yn fy syched i yfed o'r afon,
adar a'u sain sy'n rhaeadr swynion,
ynof mae'r llif atgofion yn nentydd;
haf mor ddedwydd fel byd fy mreuddwydion.

Haf hir yn llawn cyfaredd - mewn llesmair
ar y gwair yn gorwedd,
y llinellau yn allwedd
i'r drws - o'i throi daw'r hedd.

Nawr â glaw'r gaeaf o hyd heb glirio
a thynfa hen hiraeth yn fy nharo
ar fws anobaith rwy'n teithio'r lonydd - 
â ffydd daw'n ddiwetydd o ha' eto.

Mawrth 2001

cnvrule.gif (2354 bytes)