Mynd am Adref ar y Traws Cambria II
Aron Pritchard
Wyth y bore; gadael Aber,
blasu gwlad am awr a hanner
rhythu'n syn ar lesni'r tonnau'n
chwarae mig o dan y bryniau.
Hwylio drwy'r pentrefi bychan
hyd yr hewlydd igam-ogam;
heibio'r meysydd maith a'u tarthoedd
dros y defaid yn eu cannoedd.
Naw y bore; cyrraedd adre',
syth i grombil llwch fy hendre,
ceir a phobol, tai a siopau,
ond er hyn fy nghalon innau.
Mawrth 2001