Colloquial Czech ydy enw
y gyfrol syn cynnwys y cwrs
syn llawn ymadrodion defnyddiol
os wyt am berffeithio dy sgwrs:
Fy enw yw Rostislav Bene.
Rwyn dyfod o Frýdek-Mistek.
Mae ngwraig in Americanes.
Dwin dysgu deud celwydd yn Tsiec.
Bob nos rwy'n ymarfer pêl-foli.
Mae Vladimir Smicer yn ffrind.
Sdim Comiwnydd yn y llywodraeth,
nawr fod yr holl Rwsiaid di mynd.
Mae slívovicen help i mi gofio,
oi lowcio fo lawr fesul clec.
Mae cwrw cryn well i dy iechyd.
Dwin dysgu deud celwydd yn Tsiec.
Hen w^r wyf syn hoff o ysmygu.
Mae yngan c'tvrt yn reit hawdd.
Mae Ostravan bentre bach distaw.
Sdim modd creu celfyddyd heb nawdd.
Caed gwared ar bob gwrth-semitiaeth.
Ddydd Llun wnes i bostio y siec.
Dwi di dioddef er mwyn fy marddoniaeth.
Dwin dysgu deud celwydd yn Tsiec.
Maer trên yn ymadael yn brydlon.
Nid oes ar wleidyddion ofn gwaith.
Mae Cymru yn llawn beirdd talentog,
heblawr rhai syn medrur ddwy iaith.
Blinderus yw teithiau barddonol.
Nid fi a ollyngodd y gnec.
Roedd Kafkan foi iawn oddi tanodd.
Dwin dysgu deud celwydd yn Tsiec.
Jmenuju se Rostislav Bene.
Hraju volejbal rád.
Moje zena je americ'anka.
Uc'ím se c'esky lhát.
Dywedais anwiredd ym Mharis
ac ambell un bach yn yr Hâg,
ym Mosco, Berlin a Fienna,
ond dwin palu celwyddau ym Mhrâg.