acnvbnr.gif (17863 bytes)


bothafan.gif (2645 bytes)
botcyntedd.gif (2668 bytes)
botgweith.gif (2698 bytes)
botoriel.gif (2634 bytes)
botstydi.gif (2665 bytes)
botpleid.gif (2771 bytes)
botseiat.gif (2605 bytes)
botllyfrym.gif (2804 bytes)
botdolen.gif (2657 bytes)
botgwers.gif (2636 bytes)
botcwis.gif (2617 bytes)
botarchif.gif (1918 bytes)

 

Tuag at Enlli

(ymgais i ddod â phytiau o wahanol gerddi at ei gilydd)

Gwilym Morus

Blewyn o hyn yw anian
fy myw, a rhyw hel yn rhan
o'r troedio, camu'r tridiau
i lawr pob awr ar draeth y bae.

O'r glannau cri'r gwylanod dros liwiau
darnau ola'r diwrnod,
a fi'n ateb, heb wybod,
"Mi fydd y dydd eto'n dod."

Fy nghalon yn briwio'n braf
dan awen heulwen olaf -
dy lonydd di'n dadlennu
llan y fan ynof a fu.

Dychwel yn dawel yw'r don ar y lli
ei ddwr llawn atgofion,
yn ôl ar hyd ymylon
tragwyddoldeb wyneb hon.

Am dridiau, nid llwm droedio
gariodd hwn a ganodd go'
o nofio yng nglas nefoedd
yn rhan oll o'r hyn yr oedd.

Anogai ei fwythau'r eigion - Beuno
beunydd yn creu crychion
â'i law. Daw pob un yn don
i dorri'n Aberdaron.

Gorffennaf 2001

cnvrule.gif (2354 bytes)