Y tu hwn i tu hwnt
Arwel Jones
ble maer ehedydd?
cododd yn y dyddiau a fu
a breuddwydion y beirdd
yn dwym o dan ei adenydd
cododd, cododd gerfydd ei gān
ai gri yn cosi yn y clyw
or tu hwn i tu hwnt
cododd yn y dyddiau du
an llygaid yn crymu tuar llawr
cododd, cododd
yn frycheuyn i gannwyll yr haul
nes bwrwi olaun byllau bach
y tu hwn i amrannaur weddi
cododd yn y dyddiau da
fel saeth wrth gynffon seren
a sefyll draw wrth flaenaun bysedd
cododd, cododd;
ei gysgod yn dynn mewn dwrn
a gyrr o wy^r a phlacardiau
yn mentro ir mynydd
* * * * *
ble maer ehedydd?
maer ehedydd ar y mynydd,
ein bodlonrwydd yn blwm yn ei blu
ai gān yn gryndod yn ein gafael
yn ochenaid fach yng ngwyll y wawr
yn disgwyl nes daw y dydd.
Medi 2000