Yn fyddin fach o feddwi - ar ein tranc,
ar drên trist Cilmeri,
byw mewn ofn y buom ni,
byw hyd lonydd bodloni.
Bodloni. Gwrthod sbïo – ar y drws
sydd draw. Cerdded heibio
i’w ddwrn, troi ysgwydd arno,
gan hepgor ei agor o.
Ei agor ar drysorau, - ei agor
ar ogof o boenau,
gwthio’r ddôr ar swllt neu ddau
neu ei agor ar geiniogau.
Ceiniogau sy’n prinhau o hyd; – y geiriau
caiff eu gwario’n ynfyd
ym Môn a Gwent bob munud;
geiriau bach, rhai gorau’r byd.
Ond i’r byd nad yw ar ben – mi ddoist ti,
meddwaist, do fel meipen,
cyn hawlio y cawn heulwen
neu le oer tu ôl i len.
Tua’r llen honno ‘leni – awn innau’n
union yn dy gwmni,
yn ddewr cyn i’r waedd oeri,
awn i droi’r dyrnau di-ri’.
Awn, â’n dyrnau ninnau’n un, – at y car
at y cwd a’i ganlyn,
a dweud ein dweud wrth y dyn.
Awn i’w hel adra’ Heilyn!
Awn Heilyn, awn yn hwyliog, – awn yn hwyr,
yn un haid adeiniog,
i Gynwyd a Thregynog
awn ar gyrch i ddeffro’r gog.
Tra bo’r gog bydd sawl hogyn – yn barod
ben bore i’th ddilyn,
yn y wlad y mae sawl un
hiliol fel tithau Heilyn.
Heilyn fab Gwyn, tyrd â’r gwin – yn donnau
a gad inni chwerthin,
heddiw’n wyllt mi fyddwn ni’n
feddw – ond eto’n fyddin.