Tir mawn yn mynd tuar môr
ydi afon. Mae Dwyfor
yn cario Dôl Ty Cerrig
a chaeau bach Braich y Big,
cwysi o ddwr Llyn Cesig yn un baich
dan bont Rhydybenllig.
Ar ei ben yr â dwr y byd i lawr
o Eryri fawr i draethaur foryd:
maer gwelyn disgyn yn wyllt, i ysgwyd
hen greigiaur allt yn gerrig y rhyd
yn nwndwr y dwr, nes dod
yn y diwedd yn dywod.
Un amser syn diferu
ar y daith, un pwer du
tan y tonnau yn tynnu
i ben holl fwrlwm y byd
ai hafau sblennydd hefyd
ac ni chlywaf ond afon
ar ei hynt ac oer yw hon.
Ond weithiau dawr tarth yn garthen olau
o wâl y dwr halen,
niwl haf yn agor ei len,
niwl o Aberhenfelen,
a chyrraedd âr llanwn ei chwarae
tros gerrig Sarn Badrig yn y bae
fel madarch, gan fystyn ei warchae
fesul gwernen a chollen a chae,
nes troir morfa yn hen orffennol,
llyncur Llyn Du a chipio sawl dôl
a dwyn ei gerddediad ewynnol
yn droedfain drwy Ynys-gain Ganol,
ennill âi gwrlid ddwr Pwll Gorlan
a phentoeau llwyd a phont y llan,
meini crynion a Llyn Ronnan,
yna arafu i orwedd yn Nhrefan.
Yn gynnil a swil fel les Olwen
y daw, yn gawod dan ysgawen,
yn denau ei siôl gyda dawns wen,
yn haf llawn o eirar feillionen.
O herwr mynydd y dawr meini
i afon y llan a threfn y lli
yw rhoi tristwch yn Ddwyfor trostynt;
ond tu ôl ac y tu hwnt i hynt
a hanfod dwr, mae na fyd arall
syn bod cyn ei nabod, un a all
gaun gwlwm am blisgyn y galon,
ddal telynaun hafau a nofion
rhydd o afael trugaredd afon.
Nid dilyn cwrs y dolydd
ydi dull pelydraur dydd
ac nid taith drwy ganiatâd
y cerrynt ydi cariad;
niwl haf sydd eto ar led:
yno mae Twm a Sioned.