acnvbnr.gif (17863 bytes)


bothafan.gif (2645 bytes)
botcyntedd.gif (2668 bytes)
botgweith.gif (2698 bytes)
botoriel.gif (2634 bytes)
botstydi.gif (2665 bytes)
botpleid.gif (2771 bytes)
botseiat.gif (2605 bytes)
botllyfrym.gif (2804 bytes)
botdolen.gif (2657 bytes)
botgwers.gif (2636 bytes)
botcwis.gif (2617 bytes)
botarchif.gif (1918 bytes)

 

'Twm 'di marw' medd Meirion

Twm Morys

Un Mac oedd ddigon i mi,
Mac yn cymryd y mici.
Mac ddaru landio acw
Gyda hers, fel gwdihw;
Yn galw gefn dydd golau,
 chist yn barod i'w chau.

Meirion yr Ymgymerwr
Mawr ffraeth, cyhyraeth o wr,
Ar ben arch, a deufarch du
O Annwn yn ei thynnu,
Yn rhoi i bawb wâdd i'r claddu,
A minnau, Twm, yn y ty;!

Er fy mod yn fy mlodau,
Ac yn iach fel cant o gnau,
Yr oedd rhyw feirdd ar fy ôl
Yn udo yn farwnadol:
"Nid crys sy am Morys mwy,
Ond amdo'n Llanystumdwy."

Cyn i ti, y Macyn Tair,
Godi dy drydedd gadair,
Byddaf ar fy mhedwaredd,
Er fy mod dan ro fy medd.
Marw neu beidio, Meirion,
Bardd ydi bardd yn y bôn.

 Tachwedd 2000

cnvrule.gif (2354 bytes)