Â’r nen a ‘mhen yn
trymhau
drwy Fynwy draw af innau’n
ddyn bach ei ddawn yn y bôn,
ar daith i gaer y doethion.
* * *
yn breichio’r tad sydd â
gwep hwyaden
mae’r fam anghynnes yn beunes benwen:
A’u pomp yn eclipso’r Pab,
o’u hadfyd dont a’u drudfab –
mab o rwysg ag ymbarél,
bô-tei, mab y byw tawel
a’i achau’n fyw’n Rhydychen,
y mab a’i ach am ei ben.
Y crème de la crème
a’r crach
a thafod eu hiaith afiach
mor aflan ei ynganiad
yn fy nghlustiau’n hau ei
had.
Ym mreuddwyd yr
amryddawn,
yn ddau lanc mewn neuadd lawn
o fravado’n frefiadau,
ni’r wyn ffôl sy’n rhuo’n ffau’r
llewod, un lle a’i awen
yn llawn o atseiniau llên.
Yn Athen y perffeithwaith
codwn wydrau dechrau’r daith:
Byrddau aur, ni’n braidd arab
a’n pomp yn eclipso’r pab.
* * *
Taro rhech mewn twr uchel
a rhochian yn aruchel,
bramu bri â’r ymbarél.
Tua’r gwynfyd, trwy
gwynfan
dail y wawr, i’r Bodleian,
gwgu a’r pen yn gwegian.
Rhwyfo i draethawd i ryw
fyd o rithiau
drwy’r dirgelwch draw i dir y golau
yn fy nghwch yn nh’wyllwch
llinellau;
ar y tywod, cychwynnaf â’r toeau,
rwy’n bensaer yn codi'i gaer
â geiriau,
hyn cyn sylwi ar grac yn y seiliau;
rhwyfo mewn cwch yn nh’wyllwch
llinellau.
Gruddfan a’u cân yn
cau
tewi tra sigla’r toeau:
Ochain a damio’r clychau!
Dim grwn
na swn stiwdants swel
yn rhochian yn aruchel,
‘mond rhu rhech mewn twr
uchel.
* * *
Twrw’r byd yn glyd mewn
gwlâu
a rhu ein theorïau’n
fôr o swn
– myfyrwyr swel
a’n rhochian mor aruchel,
mor witty, yn llenwi’r lle
yn oriau mân y
bore;
wyn ffôl yn meddiannu’r ffau
â bravado brefiadau.
Daw rhyw wres sydyn
drosof,
nid ar fy nghais, drwy fy nghof -
swn
agro eu seisnigrwydd
a’u grwn
gwag heno’n groen gwydd
arnaf;
yn chwa o oerni
daw hen saeth ei hiraeth hi
fy Ngwalia at fy nghalon -
Crac! Hollt!
‘Sdim dianc rhag Hon.