Ar fore dydd Nadolig rhoed uchelwydd uwch y crud i'r fam gael rhoddi cusan ar foch Gwaredwr byd.
Ond ai'r un uchelwydd hwnnw oedd yno yn yr ardd pan roddodd Jiwdas gusan ar foch y Brenin hardd?
Rhagfyr 2001