acnvbnr.gif (17863 bytes)


bothafan.gif (2645 bytes)
botcyntedd.gif (2668 bytes)
botgweith.gif (2698 bytes)
botoriel.gif (2634 bytes)
botstydi.gif (2665 bytes)
botpleid.gif (2771 bytes)
botseiat.gif (2605 bytes)
botllyfrym.gif (2804 bytes)
botdolen.gif (2657 bytes)
botgwers.gif (2636 bytes)
botcwis.gif (2617 bytes)
botarchif.gif (1918 bytes)

 

Ymson Meddyg

(tra'n cadarnhau marwolaeth)

Nia Owain Huws

Mi rwyt ti'n gelain on'd wyt. Onid wyt?
Yn gelain. Neu ai fi sydd ffôl?
Edrychais i ddyfnder dy lygaid pw^l
ond 'drychais di ddim yn ôl.

Mi rwyt ti'n gelain on'd wyt. Onid wyt?
Mi rwyt ti'n gelain. Go iawn?
Corniaf d'ysgyfaint gan ddal fy ngwynt
ond ella mai 'nghlustiau sydd llawn.

Mi rwyt ti'n gelain on'd wyt. Onid wyt?
Neu oes 'na rhyw wyrth wedi bod?
Cyffyrddais dy wyneb ond ni ddaeth â gwên,
'mond adlais Fadamme Toussaude.

Mi rwyt ti'n gelain on'd wyt. Onid wyt?
Mor berffaith, a llonydd â llun,
gwrandawaf am adlais o'th galon fawr
ond clywaf fy nghalon fy hun.

Mi rwyt ti'n gelain on'dwyt. Onid wyt?
Wedi croesi'r Iorddonen ddofn.
Efallai, efallai fod fflam fach ynghyn -
gwrandawaf fi eto, rhag ofn!

Mai 2001

cnvrule.gif (2354 bytes)