Unwaith, bu llif emynau yn un môr oddi mewn i'm muriau, ond sibrydion hen donnau yw y côr drwy'r cerrig cau.
Mehefin 2002