Bwrw Pleidlais
O dro i dro fe fydd ymwelwyr â'r annedd hon ar eu traed hyd oriau
mân y bore yn trafod materion dwys a dyrys fel pwy yw bardd gorau'r G20, pwy yw'r meistr
ar y rhupunt hir, ble mae'r cynganeddwyr praffaf yn prynu eu tronsiau, ac ati, ac ati.
Ymgais yw'r dudalen hon i roi gwedd ddemocrataidd ar rai o'r trafodaethau hyn.
Yn achlysurol felly, bydd pôl piniwn newydd yn cael ei gynnal a'r
canlyniadau yn cael eu cofnodi ar gyfer ymwelwyr y dyfodol. Roedd y bleidlais gyntaf yn
rhoi'r cyfle i drigolion yr annedd i broffwydo pwy fyddai prifardd cadeiriol Eisteddfod
Genedlaethol Môn 1999. Clicia yma os
wyt am ganfod pa mor drychinebus oedd eu proffwydoliaethau. Yn ddiweddar, fodd bynnag,
cawsant well hwyl ar bethau wrth
broffwydo pwy fyddai'r archdderwydd newydd.
Mae'r pôl piniwn diweddaraf yn deillio
o drafodaeth a gafwyd yn yr annedd yn ddiweddar ynghylch dilysrwydd 'r
wreiddgoll', tra bo'r tri pôl arall yn bwrw golwg yn ôl ac yn gofyn i chdi enwi bardd gorau'r G20
ynghyd â dewis y cerddi gorau a gynhyrchwyd gan gystadlaethau'r gadair a'r goron yn ystod
y nawdegau.
Cer ati i fwrw dy bleidlais isod a chofia roi gwybod os oes gennyt
syniadau am bolau piniwn eraill ar gyfer y dyfodol.
* * * Pwysig: Dewisa
o'r rhestr trwy glicio'r saeth fechan cyn clicio'r botwm 'Pleidleisia' *
* *