| Awdur |
Neges |
   
Aron Pritchard
| | Postiwyd Gwener, Medi 28, 2001 - 09:45 yb: | |
Hyd yn oed am 48 munud wedi un y bore, Llesmeirfardd! 'Rwy'n derbyn dy bwynt, Iwan- mae yna greaduriaid tebyg i'r rhai a grybwyllir yn "Cadwyni Rhyddid" ar wasgar ym mhobman (a chanran sylweddol ohonnynt yn prynnu eu 'feta' o 'Safeway' Caerfyrddin!). Ond o adnabod dinas-fewnol Caerdydd, gwn pa fath o gymunedau y cyfeiria Graham Davies atynt yn ei gerddi arobryn. Yn sicr mae ei allu i greu'r naws drefol sy'n perthyn i'r llefydd yma- a'i ddisgrifiad bron yn Ddickensiaidd o'r bobol sy'n byw yno- yn wefreiddiol. Beth am ymestyn y drafodaeth? Ydyn ni'r beirdd yn rai sy'n ymateb yn 'spontaneous' bron i'r gymuned yr ydym yn byw ynddi? Yn sicr mae Caerfyrddin- y dref ei hun (yn enwedig ar nos o Fedi!) a'm profiadau ynddi, yn ysgogiad imi 'sgrifennu cerdd yn aml. Rhinwedd sy'n perthyn i sawl bardd, am wn i- mae Mei Mac yn mynd a ni ar hyd 'strydoedd ei Gaernarfon yn aml; bu Emyr Lewis yn "dawnsio yng Nghaerdydd" droeon, 'sgrifennodd Robat Powell awdl gyfan ar gymuned lofaol ei febyd; mae Ceredigion amaethyddol yn saff yn nwylo Dic Jones. A yw pobol, adeiladau ac awyrgylch yn un o'r catalyddion cryfaf wrth i ni feirdd fynd ati i gyfansoddi, felly? Yn sicr mae "Cadwyni Rhyddid" yn ategu hyn. |
   
Llesmeirfardd
| | Postiwyd Gwener, Medi 28, 2001 - 01:48 yb: | |
mAE'N BWYSIG AC YN DDIDDOROL GWBOD Y PETHE 'MA! |
   
Iwan Rhys
| | Postiwyd Iau, Medi 27, 2001 - 08:00 yh: | |
Cytuaf a thi, Aron. Cyfrol dreiddiol dros ben - ac yn sicr yn llwyddo i wneud i mi feddwl, er nad ydw i'n byw yng Nghaerdydd. Mae'n siwr nad am Gaerdydd yn unig y mae Grahame Davies yn sôn, ond am nifer o Gymry tebyg sydd ar wasgar ar draws y wlad. I'r 'wythnos hon' y byddaf innau'n mynd yn gyntaf o hyd, gan nad wy'n ymweld â'r annedd bob dydd. |
   
cyfriniol
| | Postiwyd Mercher, Medi 26, 2001 - 05:09 yh: | |
Ar 'Yr Wythnos' hon y byddaf i'n gwasgu. Mi fuodd ffon symudol Aron yn canu'n hir iawn yn do erbyn iddo fo orffen sgwennu am y Big Issue a'i gaws feta. Tybed os Mai graham Davies oedd yno yn diolch iddo am adolygiad mor dda? |
   
Llesmeirfardd
| | Postiwyd Llun, Medi 24, 2001 - 07:57 yh: | |
Ar y botwm 'Heddiw' y byddaf i yn ei wasgu'n gyntaf bob tro yr af i'r seiat, beth am feirdd eraill yr annedd, beth yw'r cam cyntaf rych chi'n ei gymryd yn reddfol wrth gyraedd y seiat?! |
   
Aron Pritchard
| | Postiwyd Llun, Medi 24, 2001 - 04:07 yh: | |
Rhagymadrodd (Yn unol a'm traddodiad.) Gan y byddai'r darn canlynol yn gweddu i'r adran "Trafod Beirdd" yn ogystal a "Trafod Cerddi", teimlaf mai'r peth gorau i'w wneud yw ei osod yn y gofod yma. Ta beth, byddaf i'n bersonol yn troi at yr adran "Unrhywbeth Arall" yn gyntaf bob tro imi fyned i'r Seiat. * * * Cefais nerth o rywle i ymadael a gweddillion pitw fy 'student loan' ym Mhabell Barddas yn Nimbych 'leni. Ond 'roedd hi'n werth y gwariant bob ceiniog, oblegid mae cyfrol newydd y bardd unigryw a chrafog yma yn glasur cyfoes o gyfrol. Y peth mwyaf hynod am "Cadwyni Rhyddid", a'm hoffter i ohonni, yw, heblaw am un englyn unigryw (synnu at Aled Gwyn!) am ryw siop unigryw yng Nghaerdydd, mae'n gyfrol y wers rhydd yn ei chyflawnder. Ond aiff Grahame Davies y tu-hwnt i'r ffiniau caeth a rhydd; mae ei feistrolaeth ar eiriau, a'i allu gwefreiddiol i greu naws ac ennyn cydymdeimlad- hyd yn oed euogrwydd ("wydden ni ddim")- yn denu beirdd a llengarwyr o bob tu i werthfawrogi ei gerddi. Mor wir yw geiriau Meirion MacIntyre Huws ar gefn y llyfr. Sylwebydd yw Grahame Davies yn Nhreganna, nid rhan naturiol o'r gymuned. Mae ei wawd a'i ddicter at y genhedlaeth 'cosmopolitan', cenhedlaeth y ffon symudol (megis yr un sydd gan "Y Ferch o Blwy' Pontcanna"), y "ddynes ll'nau", a'r bwydydd egsotig a fwyteir wrth drafod achub Cymru yn "CF Un Mil Naw Deg Naw"- hynny yw, eu byd 'designer'-ganolog, eu materolwch rhonc, yn llifo drwy'r cerddi'n don hynod o drawiadol. Mae'n cynnig 'antidote' bron yn ddinistriol i'r byd gwleidyddol-gywir ffals, sy'n gwneud i'm cenhedlaeth innau deimlo gymaint yn well am ein hunain ("tair 'barbie' anorecsig, ac un ohonnynt yn ddu, yn brawf o'n heangfrydedd"). Dyma fardd cyfoes, sy'n dychan y cyfoesder hwnnw, bardd dinesig sy'n gwawdio'r ffordd o fyw ddinesig, bardd byd-eang, sy'n gweld realiti'r gymuned rhyngwladol honno. Uwchlaw popeth, mae Grahame Davies yn fardd sy'n adnabod pobol. 'Roedd ei gyfrol gyntaf, "Adennill Tir" yn deyrnged anhygoel i gymunedau cymoedd y nawdegau- ac mae "Cadwyni Rhyddid" yn mynd law-yn-llaw a'r gwerthfawrogiad yma o'r natur ddynol; yn wir, mae yna 'overlaps' mewn rhai cerddi (mae'n honni yn y gerdd gyntaf na wnaiff yr 'elite' Cymreig yng Nghaerdydd fentro teithio i "gymoedd llwm y de"). Yn wir, fel un sydd a chysylltiadau teuluol a'r brifddinas, ac un sy'n aml yn cerdded hyd strydoedd Grangetown ar fy ffordd i wylio'r Adar Glas ym Mharc Ninian, gallaf uniaethu a llawer o'r delweddau yn ei gerddi, o'r cymunedau sy'n llunio'r ardal yma, ardal sy'n aml yn cael ei anghofio gan y Cymry Cymreig, heb son am feirdd Cymreig (heblaw efallai am ambell gerdd gan Ifor ap Glyn neu Emyr Lewis). 'Dwyf fi ddim yn credu fod y cyfieithiad Cymraeg, "trefol" yn air mor effeithiol yn ei hanfod a'r Saesneg, "urban"- oblegid 'urban' yw'r gair sy'n diffinio'r gyfrol hon- ac 'ethos' Grahame Davies- yn ei hanfod. Peth braf yw gweld bardd Cymraeg yn mentro i gonglau mwyaf dinesig a chyfoes y Gymru newydd- a thorri drwy ei ffalster a'i diystyrrwch yn y broses. Y llinellau sydd wedi glynnu yn fy nghof i yw'r rhai iasol hynny o'r casgliad "Golau yn y Gwyll": "Mae yna lefydd sy'n cuddio marwolaeth"- llinellau sy'n ymestyn llawer yn fwy pell na disgrifiad cignoeth o swbwrbia. Hwn oedd ei gasgliad ar gyfer Coron Mon, 'rwy'n credu, a chasgliad oedd yn sicr mor ddyfeisgar a thrawiadol ag un fuddugol Ifor ap Glyn. Mae Grahame Davies yn fardd a ddylai'n sicr fod wedi ennill y Goron eisioes, ac y bydd, y credaf, yn gwneud o fewn y pum mlynedd nesaf. Clywais ei fod wedi perfformio'n drawiadol yn y Stomp yn Nimbych hefyd. A gaf i wneud apel bersonol? Os yw Grahame Davies yn ymweld a'r Anedd o bryd i'w gilydd, byddem yn gwerthfawrogi cerdd neu ddwy ganddo ar yr Oriel. 'Rwy'n siwr y byddai pob ymwelydd a'r Annedd yn gytun y byddai'r Oriel gymaint cyfoethocach o gael cyfraniad ganddo nawr ac yn y man. Ta beth, mae fy 'mobile' yn canu- gwell imi ei ateb ar fy ffordd i brynnu'r 'feta' ar gyfer swper, a phrynnu'r "Big Issue" ar fy ffordd, er mwyn gwneud fy rhan i helpu'r di-gartref, pwy bynnag yw rheinny... |
|