acnvbnr.gif (17863 bytes)

cnvrule.gif (2354 bytes)

Ar silffoedd y stydi

Y Casgliad Answyddogol

Golygwyd gan Elena Gruffudd, Dyluniwyd gan Owain Huw

Y Lolfa, 7.95

answydd.jpg (6462 bytes)

I gyfres y dywedwyd amdani gan ei sylfaenydd mai ei hamcan oedd "codi dau fys creadigol i gyhoeddi swyddogol croen-llo Beirdd Mawr yr Academi, y KKK a’r Eisteddfod", nid dyma’r math o ddiweddglo y byddai rhywun wedi’i ddychmygu. Ar l pum cyfrol ar hugain dros gyfnod o ugain mlynedd yn enw herio, chwyldroi a phoblogeiddio; nid cyfle i lwytho i lawr yn rhad ac am ddim dros y rhyngrwyd gerddi o’n dewis, nid pytiau poblogaidd ar batrwm Pigion 2000 Gwasg Carreg Gwalch hyd yn oed, ond detholiad cytbwys a chymesur mewn cyfrol clawr caled graenus ei diwyg wedi’i noddi gan y gelyn pennaf, y KKK, a’i phris yn wyth bunt namyn pum ceiniog. Ac yn wir, y mae’r casgliad eisoes yn gorwedd yn ddiddos ar silffoedd llyfrgelloedd ein prifysgolion rhwng Y Flodeugerdd Gymraeg W.J. Gruffydd a Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif Alan Llwyd a Gwynn ap Gwilym.

Dyna’r eironi eithaf mae’n debyg, ond dyna hefyd realiti’r hyn a gyflawnwyd gan y gyfres arwyddocaol hon. Rhuthrwyd yn egnol drwy gynteddau’r traddodiad barddol, agorwyd y ffenestri led y pen a thynnwyd y llwch gydag arddeliad, ond efallai na styrbiwyd rhyw lawer ar y dodrefn wedi’r cyfan. Fel y mae cyhoeddi’r casgliad hwn yn ein hatgoffa o’r modd y llwyddodd y gyfres i wthio terfynau barddoniaeth Gymraeg o ran cynnwys, delweddaeth ac ieithwedd, a hynny mewn cyfnod pan oedd glynu at hen foddau o fynegiant yn llawer haws, felly hefyd y mae’n cadarnhau awgrym Gerwyn Wiliams mai gwrthryfel o fewn traddodiad yn hytrach na gwrthryfel yn ei erbyn a gafwyd yn y pen draw. Wedi’r cicio a’r strancio fe hawliodd y gyfres ei lle ar feysydd llafur y colegau ac mewn ymdriniaethau beirniadol safonol, a chyda cyhoeddi’r casgliad hwn, wele bennu’r canon awdurdodedig ar gyfer darllenwyr y dyfodol.

Mae dechreuadau’r gyfres, fodd bynnag, yn ein dwyn yn l i ddyddiau heulog 1976 pan oedd y byd canu cyfoes Cymraeg yn un bwrlwm heintus a’r mudiad cenedlaethol yn wynebu her y refferendwm a’r ymgyrch ddarlledu gydag awch. Yn wir, y mae’r cerddi a ddetholwyd o blith cyfrolau cyntaf y gyfres yn llawn o ‘Fywydeitis’ y cyfnod hwnnw chwedl Robat Gruffudd, wrth i drn y chwyldro wibio ar hyd y cledrau:

Wyt ti’n cofio’r noson honno
pan godon ni ddau fys ar y byd?
pan dyngon ni lw
na chyfaddawden ni fyth...

Ond yng nghysgod chwalfa 1979 y mae lleoli trwch y gyfres. O fyfyrdodau prudd Sin Aled (1979) hyd at asbri heriol Ifor ap Glyn (1991), clywir adlais o ymdrech boenus Iwan Llwyd yn ei gasgliad Gwreichion i ganu Cymru newydd i fodolaeth yn wyneb methdaliad yr hen Gymru. A thybed nad un arwydd o benllanw’r broses honno yw penderfyniad Robat Gruffudd i ddirwyn y gyfres i ben? Ar y gwastad llenyddol, beth bynnag, fe ddarfu am y pegynu safbwyntiau a oedd mor nodweddiadol o drafodaethau’r saithdegau. Yn wir, os mai pegynu barn, ymateb a safbwyntiau a wnaeth y gyfres answyddogol yn y lle cyntaf, does dim amheuaeth mai un o’i phennaf sgil-effeithiau maes o law, fu arwain at ddileu pegynu o’r fath ym myd barddoniaeth. Efallai mai’r arwydd amlycaf un o hynny yw’r ffaith mai o stabl Barddas, mudiad llenyddol arall a gychwynnwyd yn 1976 ond gyda chenhadaeth bur wahanol, y daeth cyfrolau barddoniaeth mwyaf mentrus a heriol y cyfnod diweddar.

O ran y detholiad hwn, byddai’n ddiddorol gwybod beth yn union oedd llinyn mesur y golygydd wrth ddethol y cerddi ar gyfer y casgliad. Wedi’r cyfan, bu’r gyfres ar ei hyd yn milwrio’n erbyn cysyniadau megis ‘safon’ a ‘chwaeth’. I’r darllenydd hwn, mae’n ymddangos bod nifer go dda o gerddi trawiadol wedi eu hepgor, yn enwedig felly yn achos Lona Llywelyn Davies a Steve Eaves. Mwy dadlennol yw’r ffaith fod y golygydd fel pe bai wedi mabwysiadu dull blodeugerdd Alan Llwyd a Gwynn ap Gwilym o bennu uchafswm o gerddi ar gyfer y beirdd, gan roi rhwydd hynt i ddarllenwyr chwilfrydig ddamcaniaethu ar sail y dull hwnnw mai dau fardd mwyaf arwyddocaol y gyfres yw Elin Llwyd Morgan a David R. Edwards. Fel y mae’n digwydd, wyneb David R. Edwards yw’r un a ddewiswyd i’w osod ar y clawr; ond efallai mai cydnabyddiaeth yw hynny o’r ffaith mai ei lais bloesg ef a achubodd hygrededd cenhadaeth y gyfres yn ei blynyddoedd llwydaidd olaf.

Fel y mae unrhyw gasgliad Greatest Hits da yn cynnig gorolwg o’r prif lwybrau cerddorol a a droediodd yr artist dros gyfnod o amser, cryfder y gyfrol hon yw ei bod yn cynnig gorolwg o brif dueddiadau’r gyfres yng nghyd-destun cyfnod allweddol yn ein hanes diwylliannol a gwleidyddol diweddar. Fel aml i gasgliad Greatest Hits y mae hefyd yn ein hatgoffa o berl neu ddau, (cerddi Heini Gruffudd er enghraifft), y pylodd y cof amdanynt yng nghwrs y blynyddoedd. Yn wir, wrth fwrw golwg yn l fel hyn, mae’n rhyfedd cynifer o’r cerddi sy’n para yn eu blas. Mae cyfran dda o’r cerddi serch yn dal i fod yn rhyfeddol o ffres, ac er gwaethaf y modd y dyddiodd y gyfeiriadaeth, mae’n syndod cynifer o’r cerddi gwleidyddol sydd hefyd yn parhau’n gyrhaeddgar eu hergydion. Yn ei gerdd ‘Paradwys Ffl’, y mae Iwan Llwyd yn dweud fel hyn:

Mae yn y bourgeoisie Cymreig
duedd i edrych drwy wydrau lliw,
a thorheulo pan mae’n goleuo mellt.

Hyd yn oed os yw gwleidyddiaeth gonsensws wedi treiddio muriau’r traddodiad barddol bellach, tra pery’r duedd uchod ar led yn y Gymru sydd ohoni, fe ddeil yr angen hefyd am farddoniaeth sy’n herio ac anesmwytho, ac i’r gyfres answyddogol y mae llawer iawn o’r diolch am greu hinsawdd addas ar gyfer barddoniaeth o’r fath.

cnvrule.gif (2354 bytes)

Nl i'r stydi