acnvbnr.gif (17863 bytes)

Ar silffoedd y stydi

cnvrule.gif (2354 bytes)

Chwarae Mig

Emyr Lewis

Cyhoeddiadau Barddas, 4.95

chwmig.jpg (10606 bytes)

_____________________________________________________________________

Mewn englyn ar dudalennau Barddas dro'n l, tystiai Emyr Lewis fel yr oedd 'Ysbryd Yncl Tom' yn ei "wylio o'r golwg / yn rhoi gwn drwy'i hanner gwg." Ac nid ysbryd unrhyw Yncl Tom ychwaith, ond y Thomas hwnnw o Ryd-ddu a ddaeth fel brn fawr ddu i blith yr eosiaid melysber chwedl Bobi Jones gynt. Yn l tystiolaeth y gyfrol amryliw ac amrywiol hon, efallai bod y nai yn fwy o gameleon na brn, ond yn sicr ddigon fe etifeddodd fydolwg eironig ei yncl Tom. Fel y nodir yn y broliant, ac fel y dengys y casgliad cyntaf hwn o'i waith, mae yntau hefyd yn fardd sy'n "cellwair yn ei ddwyster, ac yn drist yn ei ysgafnder". Ar lawer cyfrif mae'n gyw o frd.

I genedl sy'n gwirioni ar drafod cwlwm gwaed, mae'n demtasiwn oedi gyda'r gymhariaeth. Wedi'r cwbl, daeth y ddau i amlygrwydd fel beirdd yn sgil eu mabolgampau eisteddfodol. Yn wir, yn eu cerddi eisteddfodol mwyaf safadwy, troediodd y ddau fel ei gilydd balmentydd yr anialwch dinesig gan dynnu sylw at fodolaeth ynysig y trigolion. Ac ar ryw olwg, mewn llinellau fel "uffern y strydoedd diffaith", "dyma gaethglud y mudion", "cau llenni colli enaid", mae Emyr Lewis yn consurio awyrgylch ddigon tebyg i Paris Parry-Williams. Ond, ac mae'n ond arwyddocaol, tra bo 'Dinas' Parry-Williams yn ymgorffori cri yr enaid creadigol yn erbyn negyddiaeth lethol ei amgylchfyd, mae'n deg dweud mai'r union amgylchfyd hwnnw yw cloddfa fwyaf llewyrchus awen Emyr Lewis. Er ei fod yntau'n dyheu am weld "daear las ar ben draw'r ln", y gwir amdani, yw mai'r daith seithug tuag yno sy'n creu'r cynnwrf yn ei waith. Mae'r awdl ysgytwol 'Gwawr' yn brawf diamheuol o hynny, ac felly hefyd gywyddau grymus megis 'Yr Ais' a 'M4':

Rhewodd niwl draffordd y nos
a mygu pob dim agos
yn barlys ceir a bwrlwm
chwyrlog fel triog trwm;
trodd cyffro brwydro ein brys
yn ddawns araf ddansierus,
yn rhyw boenus grwbanu
yn ddall dan y flanced ddu.

Fel yng ngwaith un arall o'i gyd-fforddolion, Iwan Llwyd, mae'r ymdeimlad hwn o aflonyddwch a symud parhaus yn gyfeiliant cyson i'r cerddi ac yn ddrych efallai o ddiwylliant cenhedlaeth a gefnodd ar yr ymboeni am ddiffyg gwreiddiau mewn bro neu ardal benodol, y pryder hwnnw a fu mor amlwg yn llenyddiaeth y ganrif hon. Mae llinellau agoriadol y gerdd 'Yr Efengyl yn l Rusty James', sy'n ymdrin 'r breuddwyd Americanaidd, yn crynhoi i raddau helaeth yr aflonyddwch sy'n cyniwair drwy'r gyfrol:

Llygaid cathod yn y nos
ydyw'r llewyrch ar fy llwybrau
pan fydd Duw yn sibrwd "Dos"
am y gorwel...

Mae'r aflonyddwch hwn yn cael mynegiant mewn sawl dull a modd, a'r cyfan yn awgrymu bod yma fardd nad yw'n chwennych cael ei gorlannu. Mae'n awdlwr a rhigymwr, yn englynwr a thelynegwr, ac yn sicr ddigon yn sefyll ochr yn ochr Twm Morys fel cynganeddwyr mwyaf grymus a gwreiddiol eu cenhedlaeth. (Mae'r llinell anghyhoeddedig, hyd yma, "Siaradwr rwtsh Rod Richards" yn brawf sicr o'i ddawn!)

O ran ei ddewis bynciau, mae natur cameleonaidd y bardd yn amlycach fyth. Yn y gerdd hynod 'Cn y Bogel (gyda throed-nodiadau)' mae'r bardd yn bwrw iddi'n fwriadol i barodo arddull rigymol a chromfachog ei ewythr:

Diflannodd 'rhen lwythi i ganol nos o gadnid,
Ond daeth bogeiliaid newydd a Sigmund Freud;
A phob unigolyn bellach sy'n agor ei grys
Ac at ganol ei fol ei hun yn pwynto'i fys.

Ond tynnu'n groes i'r duedd tuag at hunan-ddadansoddiad a wna Emyr Lewis yn ei waith. Mae'n well o lawer ganddo'r ffenestr na'r drych; a thrwyddi, gall edrych ymhell ac agos, gan graffu ar y plwyfol a'r rhyngwladol fel ei gilydd. Mae'i fawl i waith llaw Gwilym Herber yr un mor gywir 'i fawl i ddewrder Wang Wei Lin. Mae'r un mor gartrefol wrth drafod llais Bob Dylan ag ydyw wrth drafod mawredd Ann Griffiths, (a gyda llaw, onid yw "gerwinder canu grwndi" yn grynodeb perffaith o graster cynnes Bob Dylan).

Canlyniad y parodrwydd hwn i bontio diwylliannau a thraddodiadau yw aeddfedrwydd ymateb. Mae'n ddigon deallus (a dewr) i ddinoethi theori lenyddol, yn ddigon hydeiml i golli dagrau dros dranc y cymunedau glofaol, ac yn ddigon gwylaidd i ryfeddu at wyrth y geni a gwyrth pob geni. Gwyr pa bryd i delynega a pha bryd i ddychanu; pa bryd i godi llais a pha bryd i dewi. Un funud, mewn englyn i 'Mladic', mae'n rhegi a rhuo:

Y dwylo gwaed a welwn - yn symud,
rhesymeg pastwn,
werinoedd i dir annwn
yng ngwyddbwyll gorffwyll y gwn.

ac yna, yn ymollwng yn yr englyn 'Jazz' i daro nodau mwyn a thyner yr union gerddoriaeth honno:

Bro'r cotwm yn fwrlwm fydd - yn fiwsig
draw ar faes y cystudd,
drwy'r nodau, daw rhwymau'n rhydd:
dynion yn cael adenydd.

Eto i gyd, waeth beth yw cywair y llais, waeth beth yw nodau'r gn, nid yw'r bardd yn colli gafael ar ei ddynoliaeth na'i ffydd ddiysgog yn y berthynas sylfaenol rhwng pobl 'i gilydd. Fel y dywed yn yr englyn 'Wrth wrando Croendenau Steve Eaves', "Mae'r canu'n drist... ond mae dau ar l". Dyna'r union sylweddoliad sy'n ei alluogi i gloi'r awdlau 'Chwyldro' a 'Gwawr' ar nodyn cadarnhaol a'r union sylweddoliad a ddethlir yn fuddugoliaethus yn yr hir-a-thoddaid 'Hafan':

Bu'r nos ag ymchwydd ei thwymyn drwyddi
neithiwr, a hwyliwn i frath yr heli
a ffoi rhag hunllef a chyffro'r cenlli.
Heno dy weled sy'n f'ysbrydoli;
fy ngorwel tawel wyt ti - ac atat
eto, fy nghariad, dof i angori.

Efallai mai eironi eithaf y gyfrol ragorol hon yw ei bod yn cynnig antidote i lawer iawn o'r hyn a gyfleir ynddi. Os "unlliw yw byd ein hunllef", dyma fardd 'i gynfas helaeth yn un sbloet o liw. Os mai oes yw hon sy'n dewis ffoli ar "gartwn lliwgar tenau", dyma gyfrol o gerddi amlhaenog sy'n herio'r arwynebol. Mewn oes sy'n bodloni ar wrando'r "siarad traws-Iwerydd" syrffedus, diolch am fardd sy'n "amlhau lleisiau lln". Ys dywedai Yncl Tom ei hun, mae Emyr Lewis yn "ei medru hi".

cnvrule.gif (2354 bytes)

Nl i'r stydi