acnvbnr.gif (17863 bytes)

Ar Silffoedd y Stydi

Cywyddau Cyhoeddus 3

Myrddin ap Dafydd (gol.)

Gwasg Carreg Gwalch, 5.75

cywcyh.jpg (8199 bytes)

_____________________________________________________________________

Hyd y gwn i, doedd perchennog y siop Gymraeg leol ddim wedi bwriadau cynnig sylw cyrhaeddgar ar gyflwr cyfredol y gynghanedd pan osododd y gyfrol hon nesaf at Gyfansoddiadau Bro Ogwr ar y silff o’m blaen, ond roedd yr eironi’n brathu serch hynny. Y naill gyfrol yn ddathliad afieithus o hoen y gynghanedd a’i hegni adnewyddol, a’r llall yn alarnad dros dynged y gynghanedd yn yr arena eisteddfodol. Golygydd y gyfrol dan sylw yn dawnsio’n ysgafndroed i gyfeiliant clec y trydydd casgliad o gywyddau cyhoeddus a beirniad yr awdl yn llusgo cerdded dan bwn siomedigaeth a diffyg teilyngdod.

Dwy gyfrol a dau ddarlun gwahanol iawn felly. Mor wahanol yn wir ag awgrym Alan Llwyd yn narlith lenyddol Bro Dinefwr 1996 fod yr "awdl yn prysur ddiflannu o dan ein trwynau" a phroffwydoliaeth Jms Nicholas flwyddyn yn ddiweddarach fod awdl Ceri Wyn yn Eisteddfod Meirion a’r Cyffiniau yn "agor llwybrau newydd... i’r awdl yn y ganrif nesaf". Yn wir, caiff rywun ei demtio i lafarganu gyda chymeriad Morgan Llwyd yn nrama John Gwilym Jones Hanes Rhyw Gymro "Pwy sy’n iawn? Pwy sy’n iawn? On’d ydi dyn yn casglu rhyw gowdal o syniadau ac opiniynau yn ei gorun a rheiny byth a hefyd ben ben ’i gilydd?"

Gadewch i ni ystyried y ffeithiau beth bynnag. Ceir gwaith 24 o gywyddwyr yn y casgliad newydd hwn gyda chymaint phum mlynedd a deugain rhwng yr ieuengaf a’r hynaf yn eu plith. Ymhlith y pedwar bardd ar hugain mae naw prifardd, ac o leiaf bump arall wedi cyffwrdd breichiau cadair y brifwyl, heb sn am ambell un y mae’n well ganddo eistedd yn y gadair freichiau! Mae pump o’r cywyddwyr yn cyfrannu i’r gyfres am y tro cyntaf, ac ymhlith y rhai hynny, mae yna dair o ferched o dan y deg ar hugain oed, ac un ohonynt yn ddim ond pedair ar bymtheg. Dyma griw amrywiol felly, ond criw cwbl gytn o ran eu hawydd i gyhoeddi trwy gywyddau a thrafod mewn cerdd dafod. Rhyngddynt, mae beirdd yr "hen gyfeillach ddiswache" hon chwedl Meirion W. Jones yn gyfrifol am 95 o gywyddau. Yn wir, mae egni heintus y gyfrol yn cyferbynnu yn y modd mwyaf llachar gyda llesgedd cyffredinol y cystadlaethau caeth ym Mro Ogwr, ac yn hynny o beth, yn cadarnhau awgrym Alan Llwyd yn ei ddarlith Canrif o Brifwyl nad adlewyrchiad o gyflwr y gynghanedd yw cyflwr cyffredinol yr awdl eisteddfodol na’i hanes o lanw a thrai yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond tystiolaeth yn hytrach o’r ffaith nad yw’r eisteddfod ar yr un donfedd barddoniaeth gyfoes lle mae cerdd dafod y dydd yn y cwestiwn.

Os mai’r englyn oedd prif fesur ton gyntaf y dadeni cynganeddol yn ystod y saithdegau, daeth yn gwbl amlwg ers rhai blynyddoedd bellach mai’r cywydd yw prif fesur yr ail don. Fe’i ail-orseddwyd yn y lle cyntaf trwy gyfrwng y Talwrn cyn ei ddatblygu ymhellach gan feirdd y gyfres hon, a hynny yng nghyd-destun y symudiad cyffredinol a welwyd o ganol yr wythdegau ymlaen tuag at boblogeiddio a llafareiddio barddoniaeth.

Yn gynharach eleni, mewn arolwg o sefyllfa bresennol y gynghanedd, dadleuodd Bobi Jones yn dreiddgar-bryfoclyd yn unol ’i arfer, fod pwysau ar y cynganeddwyr bellach i gadw eu gwaith mor arwynebol phosib gan ddibynnu ar y lleiafswm o waith meddwl. Soniodd Gerwyn Wiliams yntau mewn erthygl dro’n l y gall y pwyslais mawr ar ddifyrru sy’n rhan annatod o genhadaeth y cynganeddwr cyfoes "esgor ar ganu teimladol anghytbwys a deallusol glaear". Yn ei ragair i’r gyfrol ddiweddaraf hon, fodd bynnag, mae Myrddin ap Dafydd yn gwbl ddiedifar ynghylch pwyslais y gyfres hon ar boblogeiddio ac ymestyn at y gynulleidfa gan ychwanegu nad yw hynny’n golygu o reidrwydd mai gwamalrwydd yw’r nod. "Dyw anelu at ennill clust", meddai, "ddim yn golygu bod rhaid colli gwerth".

Yn sicr ddigon, mae yn y gyfrol hon, mewn cywydd ar l cywydd, funudau dwys a chyrhaeddgar; mae ‘Hawlio Iawndal am Gamwedd’ Dic Jones, ‘Hwiangerdd’ Huw Meirion Edwards a ‘Lle mae Cychod y Tlodion’ Mei Mac yn enghreifftiau amlwg. Ond ochr yn ochr ’r cywyddau hyn, ceir hefyd dogn iach lampnio byrlymus mewn cywyddau gwirioneddol ddiddan megis ‘Porcyn a Tewyn a Twrch’ Myrddin ap Dafydd a ‘Garddio’ Tudur Dylan. Ar brydiau, gall y briodas honno ymddangos fymryn yn anghysurus. Un funud, mae Emyr Davies, er enghraifft, yn clownio ynghylch ploryn ar ei dalcen a’r funud nesaf yn ein taro yn ein talcen gyda chywydd grymus am gerfluniau’r newyn yn Nulyn. Yn hynny o beth, mae’n ymddangos fod y bwlch rhwng y cywydd cyhoeddus cafalr ei natur a’r cywydd talyrnol mwy telynegol ac ymatalgar ei naws yn lledu o un gyfrol i’r nesaf.

Wedi dweud hynny, does dim dwywaith ychwaith fod y gwrthdaro rhwng cyfrwng mor hynafol ei wreiddiau a gwareiddiad y nawdegau wedi creu cyffro creadigol ffrwythlon iawn, a hwnnw drwodd a thro yn rhywbeth llawer amgenach nag ymateb newyddiadurol i benawdau’r dydd. Mae geiriau Iwan Llwyd yn ei gywydd byr ar y testun ‘Graffiti’ yn rhai awgrymog iawn yn hynny o beth:

Dyma iaith barod y mur,
afiaith y gerdd fyrfyfyr…
hen wae – cynghanedd newydd –
llofnod cerdd dafod ein dydd.

Wrth adolygu’r gyfrol gyntaf yn y gyfres hon, tynnodd Alan Llwyd sylw at y ffaith fod sn y frwydr genedlaethol wedi hen dewi yng ngwaith y genhedlaeth newydd o gywyddwyr a bod Cymreictod newydd llawer mwy hyderus ac aml-weddog yn cael ei amlygu yn eu gwaith. A ninnau bellach yn y cyfnod l-refferendwm, mae’r hyder hwnnw’n parhau i fyrlymu rhwng cloriau’r drydedd gyfrol yn y gyfres, ac eto, mae’n ymddangos fod rhai o’r beirdd wedi ymatal rhag ymgolli’n llwyr ym ‘mherlewyg y Gymru Gl’. Fel cywyddwyr, dichon eu bod yn rhy ymwybodol o’r gorffennol i allu ymuniaethu ag optimistiaeth afrad. Mae’r hyn a welodd Huw Meirion Edwards ar adeg cyhoeddi canlyniad y refferendwm yn cynrychioli ymateb mymryn yn fwy ymatalgar:

Yna gweld drwy’n gwydrau gwin
y wyrth rhwng crio a chwerthin,
y nos 'di cilio’n ddistaw,
a’n gwlith yn gymysg ’r glaw

A’r ‘glaw blin’ hwnnw sydd hefyd yn aflonyddu Twm Morys mewn cywydd byr a luniodd mewn cwta ugain munud mewn ymryson yn Y Bala ar drothwy’r refferendwm:

Titrwm tatrwm ar ben to,
y dr sydd yn ei daro
yw’r dr oer ar Dryweryn...
Cyn hir bydd yn llenwi’r llyn,
A gwn na chysga'i heno,
titrwm, tatrwm ar ben to.

Er mai cymharol fechan yw cyfraniad Twm Morys i’r casgliad y tro hwn, fel y dengys y cywydd uchod, mae ei lais yn parhau i fod gyda’r mwyaf unigolyddol, ac yn ei gywydd yn croesawu Eisteddfod yr Urdd i Ln ac Eifionydd mae’n treisio nifer o gonfensiynau’r cywydd croeso dan ganu. Hawdd iawn y gallai Idris Reynolds fod yn cyfeirio ato yn ei gywydd gafaelgar yntau, ‘Yr Harbwr’:

‘Run beiddgar bia’r harbwr
a’r badau oll, trwbadr
cynganeddion y tonnau…

Mae’r golygydd ei hun fodd bynnag yn dra ymwybodol fod nodweddion cyfundrefnol y canu caeth yn fwy o fagl i drwch y cynganeddwyr cyfoes, a’r llais dynwaredol o ganlyniad yn fynych yn tagu’r llais gwreiddiol. Fel yr eglura; "wrth ddisgwyl y geiriau cyn eu clywed, mae’r awen yn colli’i hawch". Mymryn yn llai cynnil yw’r modd y mae Emyr Lewis yn enghreifftio gwedd arall ar yr un duedd yn ei gywydd ysgubol ‘Cywydd y Lowt o Latai’ wrth sn am:

(y teip o fardd twp a fynn
mai ‘deffro’ y mae dyffryn)

Yn wir, yn nhraddodiad gorau ei gywyddau ymwybodol o l-fodernaidd, mae Emyr Lewis yn mynd gam ymhellach yn y cywydd crafog ‘Ynof’ trwy ei seilio’n gyfangwbl ar un o arferion mwyaf llafurus y cynganeddwr cyfoes:

Y mae ynof bob munud
o boen ers dechrau y byd.

Y mae ynof bob menyw
pob plentyn, pob dyn, pob duw,
pob chwedl, pob cenedl pob cof:
mi wn fod pob dim ynof.

Ynof mae Marx a Lenin,
Che a mao a Ho Chi Minh,
Thatcher a Galtieri,
Rasputin a Stalin ‘sti.

Ynof mae saith banana
a chennin a phwdin ffa.

Bu ynof unwaith bannas
ond y maent wedi dod mas.

Eto i gyd, efallai mai syndod pennaf y gyfrol hon a’r gyfres ar ei hyd yw cymaint o ffresni sy’n perthyn i waith y cywyddwyr. Yn wir, o safbwynt adolygu cyfrol mor amrywiol ei chyfoeth hon, mae cymaint yn weddill y gellid ei ddweud, a chymaint o gywyddau sy’n teilyngu sylw. Mae cywydd grymus Dic Jones ‘I gyfarch Ceri Wyn’, er enghraifft, yn ymestyn ar y ddeialog rhyngddo phrifardd y Bala; deialog a gychwynnwyd gydag awdl ‘Y Gwanwyn’ yn Aberteifi 1976, ond deialog y mae Dic fel pe bai’n cau pen y mwdwl arni gyda’r llinellau hyn:

Mae i Wanwyn ddau wyneb
a’u didoli ni all neb.
Ein tragwyddol waddol nt
yn dod fel tynged ydynt.

Eu haul fyth a welaf i,
canu’r cur yw camp Ceri.

Mae cywydd trawiadol Emyr Davies ‘Y Ddwy Nain’ hefyd yn llwythog o ran ei gyfeiriadaeth a’r adlais eironig o un o linellau awdl ‘Llanw a Thrai’ Ieuan Wyn yn wirioneddol gyrhaeddgar:

Er mwyn glanweithdra’i mynwes
y rhoir i nain liain les

Anodd iawn yw peidio ag ymateb i’r darluniau synhwyrus sy’n britho’r gyfrol ar ei hyd, fel ag yn achos llinellau agoriadol cywydd Dafydd Pritchard i Sul y Cofio:

Aeth y dail yn fethdalwyr
dan ofidiau gwadnau gwr
sy’n crensian drwy hen hanes.

Hen hanes yw cadair wag Bro Ogwr hefyd bellach, ac mae angen symud ymlaen yn unol cherddediad beirdd y gyfrol hon. Mewn seiat lenyddol ychydig wythnosau’n l rhoddwyd pin yn swigen y cwestiwn pwysfawr ‘Pam fod cadair Bro Ogwr yn wag?’ gyda’r sylw gwamal ‘Am fod y soffa’n fwy cyfforddus’. I’r beirdd cynganeddol hyn, er gwaethaf campau eisteddfodol rhai ohonynt yn y cyfnod diweddar, mae’n ymddangos nad yr awdl ac ehangder ei chynfas yw’r cyfrwng mwyaf cyfforddus ar eu cyfer na’r cyfrwng mwyaf tebygol o danio eu hawen. Tybed hefyd nad yw’r cyd-destun cyhoeddus a’i adborth uniongyrchol yn fwy apelgar na’r gyfundrefn gystadleuol ddirgel ac arafwch ei hymateb? Beth bynnag am hynny, ag aralleirio Groucho Mark, mae’r gyfrol hon yn profi’n ddiymwad fod yr adroddiadau a ddaeth i law o Fro Ogwr am farwolaeth y gynghanedd wedi eu gorliwio’n enbyd. Cyn belled ag y gall pwyllgorau lln y dyfodol diwnio i nwyf cerdd dafod y dydd, mae yma ddigonedd o feirdd yn aros gyda’r ddawn i fedru, yng ngeiriau Tudur Dylan:

Rhoi o’r nos, y bore i ni,
a thrannoeth, y wawr inni.

cnvrule.gif (2354 bytes)

Nl i'r stydi