acnvbnr.gif (17863 bytes)

Ar Silffoedd y Stydi

cnvrule.gif (2354 bytes)

Dan Ddylanwad

Iwan Llwyd

Gwasg Taf, 5.95

danddyl.jpg (14377 bytes)

_____________________________________________________________________

Dros drigain mlynedd yn l bellach safai bardd Cymraeg pwysicaf ei genhedlaeth ar ddec llong 'i thrwyn tua'r gorllewin a thiroedd Gogledd America. Eleni, dyma ninnau ar dudalennau agoriadol y gyfrol ragorol hon yn cael ein hebrwng o orsaf Bangor i faes awyr Manceinion yng nghwmni gwr bardd pwysicaf ei genhedlaeth yntau wrth iddo gychwyn ar daith i'r un cyfeiriad yn union 'i ddilyn yr haul mawr melyn i'w orffwysfa ola'.

Y cyntaf o'r ddau, yn ei ddull dihafal ei hun, a soniodd rywdro fod dwy ffordd o fynd adref, ac mai un ohonynt yw aros gartref. Ac i ryw raddau, dilyn y ddwy ln fel ei gilydd a wna Iwan Llwyd mewn cyfrol o gerddi sy’n deillio o ymweliadau ag America a Chanada ar y naill law, a thaith o gylch Cymru ar y llaw arall.

Fel y soniwyd droeon, mae teithio a symud yn gysyniadau cwbl greiddiol yng ngwaith y bardd. Yn ei eiriau ef ei hun, mae’n 'gartrefol tu l i'r olwyn', ac fel y sylwodd ei gyd-bererin, Twm Morys, yn ddiweddar, ‘dyn a'i wlad yn un ln - i'w theithio,/A'i lawenydd o yn olwynion’ yw Iwan Llwyd. Yn sicr, mae sawr y gasoline mor gry' ar y gyfrol hon ag ydyw ar recordiau Bruce Springsteen. Eto, yn nhraddodiad gorau y road movie Americanaidd, genre y gellir olrhain ei dylanwad ar y bardd, nid y cychwyn na'r cyrraedd sy'n bwysig mewn gwirionedd, ond y daith ei hun ar yr ‘hewl ddi-ddychwel i rywle’ a’r profiadau a'r cyfarfyddiadau darfodedig a ddaw yn ei sgil; y 'jiwc-bocs o atgofion' sy'n 'neon drwy'r nos'. Ar ymweliad Graceland, mae'n arwyddocaol mai cadilac pinc Elvis sy'n dwyn ei sylw, ac wrth basio'r gwesty lle saethwyd Martin Luther King, ei fod yn taro ar yr Oldsmobile a'r Pontiac a hebryngodd y proffwyd yno dros chwarter canrif yn l, gan nodi:

pan fo anadl America'n peidio
ceir llonydd yw'r cyfan sy'n aros.

O ran gweledigaeth y bardd, y gerdd allweddol yn hyn oll yw'r unig un i oroesi o gasgliad ysgubol Eisteddfod Cwm Rhymni, sef 'Ffordd Osgoi'; cerdd sydd hefyd yn cyffwrdd motiff canolog arall yn ei waith, sef y ffin. Fel ag y mae'r A55 yn y gerdd honno yn torri ei llwybr rhwng bryniau Hiraethog a'r glannau, rhwng cysgodion canrifoedd o draddodiad llenyddol a chrefyddol a goleuadau Merswy, felly hefyd y mae Iwan Llwyd yn y gyfrol hon yn tynnu oddi ar y naill fyd a'r llall o ran cyfeiriadaeth, delweddaeth ac ysbrydoliaeth. Yn wir, un o'r elfennau mwyaf cyffrous yn ei waith yw ei ddawn i gyfosod elfennau o fydoedd gwahanol mewn cyd-destunau diarth. Mae'n gwrando Bob Delyn ym maes awyr Manceinion, yn dwyn ynghyd Rhiannon y Pedair Cainc a Rhiannon Fleetwood Mac yn Haight Ashbury, yn adleisio Hedd Wyn yng nghelloedd Alcatraz, ac yn prynu rownd i Dafydd Iwan, Hiawatha, Llywelyn a Sitting Bull mewn bar hanner gwag yn Nashville ar brynhawn Mawrth blin. Ac er bod y bardd yn tystio fod yr enwau Americanaidd yn ei gyferirlyfr diwylliannol yn ‘fwy cyfarwydd erbyn hyn/nag enwau Palestina neu Rodd Mam', mae’r gymhariaeth ynddi'i hun yn ddadlennol. I raddau helaeth, er mor amlwg yw'r ffin yn ei waith, mae Iwan Llwyd yn fardd sans frontire; yn fardd a'i filltir sgwr yn fyd-grwn.

Yng ngherddi 'Mericia, cawn gyd-deithio 'r bardd ar drywydd y freuddwyd Americanaidd a chanlyn ei ymgais i durio o dan wyneb y gymdeithas a Facdonaldeiddiwyd. Felly, er ein bod yn cael cip ar yr America arwynebol a chorfforaethol hwnt ac yma ("57 channels and nothing on" chwedl Springsteen), mae yma hefyd werthfawrogiad o'r modd y mae America yn parhau i gynnig llwybrau newydd a phosibiliadau newydd. Ar strydoedd Philadelphia:

... mae'r gwynt yn gwasgaru rhyw flodau newydd
i feddiannu cyrion yr ardd o hyd.

Ac er sylweddoli fod Woodstock a'i delfrydau 'yn y cae nesa bob tro', mae'r 'Rinestone ffl' sydd yng nghalon y telynegwr hwn yn parhau i allu ymuno yn y gn gyda hen ddyn Memphis a throi 'ei wedd at y wawr'. Iddo ef, a hogiau'r canu gwlad, yn y pen draw, mae emosiynau amrwd yn drech na corporate affairs.

Wedi dychwelyd dros y gorwel yn l i'w wlad ei hun, mae'r bardd yn dal i deithio ar yr un draffordd mewn gwirionedd, er bod rhywun yn synhwyro bod ei ymweliadau gogledd America wedi hogi ei sylwebaeth. Ar ymweliad 'r Eisteddfod Genedlaethol yn ystod haf crasboeth 1995, mae'n gresynu 'mor unlliw yw patrymau'r winllan', ond eto, wrth i'r daith fynd rhagddi ac wrth i'r bardd fentro'r cefnffyrdd, mae Cymru liwgar a gwahanol yn dechrau ymffurfio ar y cynfas. Fel y dywed yn y gerdd 'Castell Henllys a Nanhyfer':

mor hawdd yw rhuthro heibio
ar ein ffyrdd osgoi uwchlaw,
heb anadlu'r dyfnderoedd sydd ynom:

Ar lawer cyfrif, bron nad yw'r daith yn barhad o bererindod Rhys a'i fam yn y casgliad 'Gwreichion', gyda'i siomedigaethau a'i dadrithiadau, ond gyda'i phwyslais hefyd ar ganfod y 'darn o haul mewn dwrn hualog' a'i ffydd waelodol mewn pobl a'u dyheadau. Yn hynny o beth, mae geiriau'r bardd wrth ymweld Mynydd Parys, Mn yn arwyddocaol:

diffaith pob tirlun lle na cheir olion
hen ddiwydiant a hen freuddwydion

Mae'n arwyddocaol hefyd fod yr adolygydd hwn wedi gallu traethu cyhyd heb grybwyll meistrolaeth lwyr ac ymddangosiadol ddi-ymdrech Iwan Llwyd ar holl adnoddau'r bardd o Gymro. Rywsut neu'i gilydd, hyd yn oed o fewn cyfyngiadau'r englyn a'r hir a thoddaid, mae ei awen yn llwyddo i ganfod adenydd. Mae'n delweddu a dyfalu gyda'r gorau, yn argyhoeddi fel rhigymwr a chywyddwr, yn gloywi mewn englynion milwr a cherddi penrhydd, ac yn arloesi yn ei ddefnydd o batrwm y bls 12 bar. Yn wir, fel pob cerddor bls da, mae'i grefft yn dywyllodrus o syml, a'r rhin, yn fynych iawn, yn yr ymatal.

Mae trwch y cerddi yn gynnyrch dwy gyfres deledu drawiadol gan gwmni Telegraffiti, ac yn union fel ag yr elwodd y cerddi yn y rhaglenni hynny ar waith camera Michael Bayley Hughes, felly hefyd y mae’r printiau du a gwyn o ysgathriadau Anthony Evans yn y gyfrol hon yn cyfoethogi ac yn ychwanegu at ddimensiynau’r cerddi. Yn hynny o beth, mae cenhadaeth gyson y bardd fod angen harneisio ynghyd holl rym y celfyddydau yng Nghymru yn parhau’n berthnasol.

Mae teitl y gerdd olaf ond un yn y casgliad yn dwyn i gof y label a osodwyd ar y bardd gan Alan Llwyd rywdro, wrth iddo ei drafod ef a'i gyfoeswyr, sef 'Best of a Bad Bunch'. Er bod y bardd ei hun yn ymwrthod yn llwyr bathodynnau o'r fath; ac eithrio'r goleddfiad, roedd Alan Llwyd yn llygad ei le. Ac er gwaethaf y cofnod tila a gwallus a neilltuwyd iddo yn yr argraffiad diwygiedig o'r Cydymaith, nid ar sail ei osgo ginesgar yn unig y cyfeiriwyd ato fel "bardd mawr" ar dudalennau Barn yn ddiweddar. Dan ei ddylanwad, mentraf innau ddweud dan ganu fod hon yn gyfrol tan gamp.

cnvrule.gif (2354 bytes)

Nl i'r stydi