acnvbnr.gif (17863 bytes)

cnvrule.gif (2354 bytes)

Ar silffoedd y stydi

Cyfres Dawn Dweud: T.H. Parry-Williams

R. Gerallt Jones

Y Lolfa, 10.99

thpw.jpg (5821 bytes)

Rai blynyddoedd yn l bellach wrth durio drwy focs o ddeunyddiau llawysgrifol a gedwir yng nghrombil y Llyfrgell Genedlaethol deuthum wyneb yn wyneb mewn modd trawiadol iawn ag un o’r ystyriaethau canolog a wynebai awdur y cofiant hirddisgwyliedig hwn. Wrth fwrw golwg ar gopi drafft o’r rhigwm ‘Ymwacd’, y rhigwm hwnnw sy’n cloi gyda’r cwpled arswydus Ni bydd dim yn aros ar l wedi’r ymwacu / Ond tydi dy hun - a’r nos amdanat yn cau, profiad eitha’ sobreiddiol oedd canfod ar yr un darn o bapur, restr siopa yn llaw’r bardd yn cynnwys eitemau mor amrywiol phwys o domatos a Pineapple Cough Syrup. Parry-Williams y bardd a’r llenor ar y naill law yn rhoi llais i’w ddadansoddiad didostur o’r cyflwr dynol a Parry-Williams y dyn ar y llaw arall yn ymhel "chyffredinwch nychol byw-bob-dydd". Yn unol ag amcanion y gyfres o fywgraffiadau llenyddol y mae’n rhan ohoni, Parry-Williams y bardd a’r llenor sy’n hawlio’r llwyfan yn y gyfrol gyfoethog hon, ond hanes y dyn a throeon ei yrfa sy’n pennu patrwm a chynllun y ddrama, ac yn benodol, y daith nadreddog honno o aelwyd T ’r Ysgol i ‘oriel yr anfarwolion’ a’r modd y trawsffurfiwyd Tom yr hogyn sensitif yn Syr Thomas Herbert Parry-Williams ‘Eicon y Genedl’.

Yn rhyfedd iawn, mae’r allwedd i’r modd yr ymagweddodd R. Gerallt Jones tuag at y daith honno hefyd i’w ganfod yn y dywededig focs. Ynddo, ceir fersiynau drafft o nifer o’r rhigymau eraill a gyhoeddwyd yn y gyfrol Ugain o Gerddi ac ar gefn copi drafft o’r rhigwm ‘Y Trip’ (a ysgrifennwyd "gan mwyaf yn y trn i Lanelli"), gwelir Parry-Williams yn deiagramu’r syniad mai pob deng mlynedd y daw’r gwir gyffroadau mewn bywyd (neu’r ‘siocs’ chwedl yntau), gan adleisio’r hyn a fynegwyd ganddo’n gynharach yn ei ysgrif ‘Boddi Cath’:

Ambell dro yn unig mewn bywyd y byddwn yn byw, ac wedi byw rhyw hanner dwsin o bethau yr ydym yn barod i fynd... Ie, rhyw hanner dwsin, mwy neu lai, o ddigwyddiadau sydd yng nghwrs bywyd, a rhyngddynt nid oes odid ddim o bwys.

Yn achos Parry-Williams, fel y dengys y gyfrol hon, mae’n ddigon hawdd canfod patrwm o’r fath yn ymffurfio’n ei fywyd. Gellir dechrau yn 1898 gyda’i alltudiaeth gynamserol o Ryd-ddu ei fagwraeth i Ysgol Ganolradd Porthmadog, ac yntau’n ddim ond un mlwydd ar ddeg. Wedi dilyn ei lwybrau fel myfyriwr mewn pedair gwlad wahanol a thystio i’w fabolgampau eisteddfodol, mae gofyn hoelio sylw ar y modd y disgynnodd cysgod y Rhyfel Byd Cyntaf drosto a’r erledigaeth a ddioddefodd fel heddychwr, erledigaeth a arweiniodd maes o law at ei benderfyniad i gefnu ar ei waith fel darlithydd Cymraeg a dilyn cwrs meddygol am flwyddyn orfoleddus. Ymlaen wedyn at ganol y dauddegau a’r cyfnod dirdynnol a’i gwelodd yn ymgymryd ’r daith heriol i Dde America ac yn wynebu marwolaeth ei rieni yn ogystal marwolaeth drasig merch ifanc y bu, yng ngeiriau R. Gerallt Jones, yn "ymgyfeillachu hi". Ymhen degawd eto, fe fyddai’n galaru ar l Blodwen ei chwaer a Willie ei frawd, yn ymgymryd thaith anturus arall, (i Ogledd America y tro hwn), yn ogystal gwneud cais am yr eildro am le ar gwrs meddygol ac yntau’n Athro Prifysgol saith a deugain mlwydd oed.

Y cerrig milltir hyn felly yw’r echelydd y mae’r cofiant hwn yn troi arnynt, ac y mae’r awdur yn ein tywys heibio iddynt oll yn eu tro gyda’r hydeimledd hwnnw a nodweddai ei astudiaeth flaenorol o waith Parry-Williams yn y gyfres Writers of Wales. Wrth drafod yr alltudiaeth gynnar er enghraifft, mae’n dweud fel hyn:

Yn un ar ddeg oed, yr oedd wedi cyfnewid cynhesrwydd aelwyd am oerni t lojin, ac yr oedd hynny wedi newid ei fywyd am byth.

Ac wrth drafod effaith y Rhyfel arno, mae’n damcaniaethu’n ddiddorol iawn mai rhan o’i strategaeth i gau’r drws ar y blynyddoedd cythryblus hynny oedd ei benderfyniad i gefnu ar ei enw bedydd Tom a chofleidio’r enw Thomas, er nad oedd ganddo unrhyw sail dros wneud hynny mewn gwirionedd.

Dywedwyd droeon dros y blynyddoedd nad oedd yn fwriad gan Parry-Williams i wneud gwaith yr un cofiannydd yn hawdd. Fel yr henwr hwnnw a werthai’r grisial ger y Dolau Gwynion wrth odre’r Wyddfa gellid dweud amdano yntau hefyd; "G r doeth oedd hwn, yn cadw ei gyfrinach ac yn celu ei arfaeth". Yn ei ysgrif, ‘Nodion Dyddiadurol’ cofiwn iddo fygwth llosgi’n lludw yr holl ddyddiaduron a gadwodd yn ddi-fwlch o 1903 ymlaen, gan gynnwys y dyddiaduron taith, a hynny rhag iddynt "syrthio i ddwylo rhyw chwilotwr blysig". Testun diolch felly yw’r ffaith na weithredodd ar ei fygythiad, ac yn sicr, mae’r pytiau dyddiadurol a gyhoeddir yn y gyfrol hon am y tro cyntaf yn ychwanegu cryn liw i’r drafodaeth; nid oherwydd eu bod yn taflu goleuni ar y cynnyrch llenyddol fel y cyfryw, ond am eu bod yn rhoi gwedd mwy dynol ar un arall y bu’n duedd gennym ar brydiau i rythu’n berlewygol ger ei fron yn oriel yr anfarwolion. Meddyliwch amdano’n ysgrifennu fel hyn yn nyddiadur taith 1925 wrth gyrraedd Antofugosta:

Yr oedd haid o dagoes - fel arfer - yn dadlwytho drwy’r dydd heddiw... Yr oedd golwg arw ar rai o’r giwed a ddaeth i’r llong, yn enwedig rai o’r taclau sy’n mynd i’r trydydd dosbarth.

Mae R. Gerallt Jones yn amddiffyn y cofnod hwn trwy ddweud fod y bardd "wedi cael llond bol ar fod ar fwrdd llong, fod budreddi a blerwch a thlodi eithafol yr hyn y byddem yn ei alw bellach yn ‘Drydydd Byd’ wedi cael effaith fawr, ymron yn gorfforol arno…" Yn wir, ‘dyw Parry-Williams yr enaid clwyfus fyth ymhell o’r dyddiaduron taith, ac eto mae ynddynt ddigon o ddifyrrwch i’n harbed rhag cael ein llethu’n llwyr. Mae cynildeb ei sylw am y ‘lunch’ a rannodd yn y Valparaiso Club gyda chynrychiolydd y cwmni llongau er enghraifft: ‘dau cocktail a gwin gwyn – siriolais lawer’, yn nodweddiadol. Yn unol ’i duedd, fodd bynnag, mae cymaint yn fwy yn aros heb ei ddatgelu. Ni allwn felly ond dyfalu beth fu testun y sgwrs rhyngddo J.B. Priestley ar y trn i Colorado neu rhyngddo Syr Malcolm Campbell wrth i hwnnw anelu am y Salt Lake Flats yn Utah i dorri record y byd am gyflymdra.

Ar wahn i’r pytiau dyddiadurol hyn, gwneir yma hefyd ddefnydd dethol a diddorol o’r ohebiaeth a drosglwyddwyd i ofal y Llyfrgell Genedlaethol, gan gynnwys llythyrau difyr iawn o law beirdd eraill megis Prosser Rhys a Caradog Prichard heb sn am y ddau gefnder. Ar brydiau, bron na ellir ymglywed ’r mwynhad a gafodd R. Gerallt Jones wrth fwrw cip slei dros eu ‘sgwyddau, fel yn achos y llythyr gogleisiol hwnnw sy’n cynnwys cyfarwyddiadau ysgolheigaidd Tom Parry i’r Tom arall ar sut i gasglu ei gar o garej yn Aberystwyth a’i yrru i Fangor:

Rhowch ei lond o oil cyn cychwyn, yna peint yn Nolgellau, efallai…Doeth fuasai gweld pa faint o wynt sydd yn yr olwynion. Y mae’r olwyn flaen chwith yn gollwng, ac yn sicr o fod yn bur feddal erbyn hyn… Un cyngor arall: i hwyluso cychwyn yr injan da yw preimio’r carburretor…

Yng ngoleuni’r defnydd a wnaed o’r dyddiaduron a’r ohebiaeth, mae’n arwyddocaol fod R. Gerallt Jones wedi dewis ymatal rhag pwyso’n rhy drwm ar dystiolaeth lafar, er mor niferus a diddan yw’r anecdotau hynny ynghylch Parry-Williams sy’n cerdded y wlad. Dewisodd ganolbwyntio yn hytrach ar lond dwrn o hanesion y gallodd eu gwau yn dynn i’r trywydd a osododd iddo’i hun. Er enghraifft, wrth gyfeirio at betruster Parry-Williams yn derbyn gwahoddiad i draddodi araith yn seremoni agor ysgol uwchradd newydd ym Mhorthmadog, cyfeirir at sylw gwamal-dreiddgar ei wraig: ‘Yn lle gofyn i chi agor yr ysgol newydd, piti na fuasen nhw wedi gofyn i chi gau’r hen un!’

Eto, er y cyfoeth o ffynonellau newydd sy’n britho’r tudalennau, mae’r awdur yn eu defnyddio bob amser i’n tywys yn l at y cerddi a’r ysgrifau, ac os yw ei ddamcaniaethu ynghylch troeon gyrfa Parry-Williams yn ddealladwy o ofalus, mae’n llwyddo i ddadansoddi’r cynnyrch llenyddol chryn argyhoeddiad a threiddgarwch. Fel hyn y mae’n ymdrin ’r soned ‘Dychwelyd’, er enghraifft:

Gosodiad syml iawn sydd yn y soned, ond mae’n osodiad mor absoliwt fel y mae’n osodiad o fath anghyffredin iawn i Parry-Williams ei wneud; er mwyn ein darbwyllo ei fod o ddifrif, y mae’n rhaid iddo wneud y gosodiad yn y modd mwyaf gwrthrychol posibl. Gan hynny, y mae’r soned hon yn gwbl glasurol a ‘di-sn-amdani’. Y mae pob llinell yn ddegsill, pob odl yn gyflawn, pob rhythm yn rheolaidd; y mae cerddediad y soned yn gwbl llyfn a threfnus... Nid oes yn y soned unrhyw driciau, unrhyw ddelweddau mentrus, unrhyw dro yn ei chynffon. Y mae fel pe bai’n dweud: ‘Yr wyf am wneud y gosodiad hwn; y mae’n osodiad o bwys, a’r gosodiad, ac nid y modd yr wyf yn ei fynegi, sy’n bwysig. Pan ddywedaf, "Ni wnawn wrth ffoi am byth o’n ffwdan ffl,/Ond llithro i’r llonyddwch mawr yn l", dyna’n union beth rwy’n ei olygu.’... Nid oes i ddyn ond un bywyd, un cyfle i fyw, ac yn y byd creulon a mympwyol hwn, gwaetha’r modd, y mae’r cyfle hwnnw.

Ond nid y cerddi ‘mawr’ yn unig sy’n cael eu gosod o dan y chwyddwydr. Mae R. Gerallt Jones yn rhoi cryn sylw hefyd i rai o gerddi ac ysgrifau anghofiedig yr hanner ieuenctid yn ogystal nifer o gerddi na chyhoeddwyd yn unman arall hyd yma. Yn wir, gyda chymaint o’i gynnyrch llenyddol anghyhoeddedig bellach wedi dod i’r fei mewn gwahanol astudiaethau, onid yw’n hen bryd cyhoeddi casgliad cyflawn o’i waith ar batrwm casgliad gwerthfawr Alan Llwyd o gerddi R. Williams Parry?

Wrth ddarllen cofiant fel hwn i un y mae ei oes yn rhychwantu cyfnod mor allweddol yn ein hanes fel pobl, efallai mai’r syndod mwyaf yw cyn lleied o sylw a roddir i’r cyfnod ei hun. Y gwir amdani, wrth gwrs, ac eithrio rhai o gerddi’r hanner ieuenctid a chyfran dda o gerddi’r gyfrol Ugain o Gerddi, ymatal rhag ymdrin yn uniongyrchol chynyrfiadau Cymru’r ugeinfed ganrif a wnaeth Parry-Williams. Yn anuniongyrchol, fodd bynnag, does dim dwywaith fod yn ei waith fynegiant croyw iawn o groestyniadau meddyliol a theimladol y cyfnod, ac yn hynny o beth, mae rhywun yn dyheu weithiau ar i’r awdur ledu cyd-destun y drafodaeth a rhoi golwg ar y modd yr oedd y tirlun diwylliannol yn cael ei drawsnewid. Un enghraifft fechan sy’n amlygu’r duedd yw’r ffaith na cheir yma sn o gwbl am Ddiwygiad 1904 a’i sgil-effeithiau, er bod Parry-Williams ar y pryd yn alltud croendenau dwy ar bymtheg oed a fynychai wasanaethau yng nghapel Iolo Caernarfon ym Mhorthmadog ac a fynychodd un o gyfarfodydd Evan Roberts ym Meddgelert.

Gan fod cofiant Parry-Williams bellach ‘wedi’i wneud’ fel y dywedir, efallai y goddefer i mi dynnu sylw at ambell lithriad hwnt ac yma a ddaliodd fy llygad. T. Gwynn Jones nid Gwenallt oedd y sawl a gyfarchwyd ganddo yn y rhigwm ‘Bardd’; nid ‘Bro’ oedd y gerdd olaf o’i waith i ymddangos mewn print, yr oedd yn dal i gyhoeddi ambell bwt o gerdd hwnt ac yma hyd at 1965 o leiaf; ac yn wahanol i’r hyn a honnodd J.E. Caerwyn Williams ac a ailadroddir yma, nid yw gweithgarwch Parry-Williams yn rhith Oxoniensis yn dirwyn i ben yn 1912. Ceir ysgrif allweddol ganddo yn 1913 yn dwyn y teitl ‘Noethlymun’ sy’n bwrw trem yn l dros flynyddoedd ffurfiannol ei yrfa lenyddol yn y lle cyntaf ac yna’n troi ei golygon i syllu ym myw llygad moderniaeth. Yn yr ysgrif honno, wrth ymbaratoi’n betrusgar i gefnu ar y rhamantiaeth y magwyd ef yn ei chysgod, mae’n dweud fel hyn:

Bu arnaf arswyd rhagddo erioed, gased gennyf yr ysfa codi’r llen. Hoffais y cudd a’r hanner cudd, yr annelwig a’r anwybod... Cerais y mynydd yn well dan y niwl, a’r mr yn well heb weled y gorwel... Wedi’r dadlennu, derfydd am synnu a rhyfeddu; ac wedyn p’le mae’r swyn? Collir byd cyfan o swyn unwaith y gwelir ei ben draw ac y rhoir cerrig milltir hyd ei ffyrdd"

Gellir yn hawdd dychmygu mai teimladau cymysg digon tebyg i’r uchod fydd yn pwyso ar nifer sylweddol o ddarllenwyr y gyfrol hon wrth glosio ati, yn enwedig felly’r genhedlaeth honno a fagwyd ac a besgodd ar ddeiet cyson o Parry-Williams ac a welodd ‘y myth yn crynhoi’. Ond does dim angen iddynt boeni. Er gwaethaf y dadlennu, neu efallai o’i herwydd, mae’r myth yn parhau a Tom, Parry-bach a Syr Thomas yn ymddangos mor enigmatig ag erioed. Mae’r rhamantydd yn swatio yng nghesail y modernydd, y gwerinwr yn hobnobio dyn y sefydliad, y brogarwr yn ymryson ’r enaid aflonydd a’r agnostig yn cydio’n dynn yn ei waddol grefyddol. Ond ar derfyn canrif fel hyn, fe dybiwn i mai cymwynas bennaf y llyfr hynod ddarllenadwy hwn yw ei fod yn hoelio ein sylw unwaith yn rhagor ar y ffaith foel mai yng ngweithiau Parry-Williams yn anad unlle arall yr ymdeimlir gryfaf ’r ysictod a brofodd ef a chynifer o’i gyfoeswyr wrth iddynt ymbalfalu am ffordd ymlaen o’r groesffordd ddiwylliannol y cawsant eu hunain yn sefyll arni.

cnvrule.gif (2354 bytes)

Nl i'r stydi