acnvbnr.gif (17863 bytes)

cnvrule.gif (2354 bytes)

Ar silffoedd y stydi

Syched am Sycharth

Iwan Llwyd, Geraint Lvgreen, Myrddin ap Dafydd, Ifor ap Glyn, Twm Morys

Gwasg Carreg Gwalch, 5

sycharth.jpg (4106 bytes)

Adolygiad gan Aneirin Karadog

I'r rhai yn ein plith, fel fi, na chafodd gyfle i fynychu'r un o nosweithiau'r daith 'Syched am Sycharth' a oedd yn dathlu blwyddyn Owain Glyndwr a diwrnod Glyndwr ar Fedi 16, dyma'r gyfrol berffaith i'w phrynu er mwyn cael blas ar yr hyn a ddigwyddai. Yn yr un modd, dyma'r llyfr perffaith i'r rhai yn ein plith a fu'n ddigon ffodus i weld y perfformiadau, gan roi cyfle i hel atgofion ac ail-fyw'r diddanwch a fu.

Ceir yma gasgliad o nifer o gerddi gan bump o feirdd (Iwan Llwyd, Geraint Lovgreen, Myrddin ap Dafydd, Ifor ap Glyn a Twm Morys) ynghyd sawl chwedl ynghylch Owain Glyndwr, y gwrthryfel a'i gyfnod. Felly, gyda chymaint o amrywiaeth o ran cyfrannwyr, dylai fod yma rywbeth at ddant pawb, yn ddwys ac yn ddifyr.

Mae'n amlwg fod y beirdd hyn wedi gwneud gwaith ymchwil digon manwl er mwyn cael gafael ar gynifer o ffeithiau diddorol am y cyfnod, megis y deddfau penyd a grwyd gan Senedd Lloegr yn erbyn y Cymry ar y pryd. Dyfynnir y deddfau yn yr iaith fain, sef yr iaith y'u lluniwyd hwynt ynddi:

"To avoid the many disturbances and mischiefs which have ocurred heretofore in the land of Wales, due to Wasters, Rhymers, Minstrals and other Vagabonds, it is decreed that no Waster, Rhymer, Minstral nor Vagabond in the land of Wales shall receive any sustenance from the people."

Ni sonnir dim am feirdd yn y ddeddf uchod, felly nid oes syndod mewn ffordd na wrandawodd beirdd yr uchelwyr ar y ddeddf honno!

Er mai cywyddwyr oedd beirdd yr uchelwyr, nid cywyddau yn unig sydd i'w canfod yn llechu rhwng cloriau'r gyfrol hon. Mae yma sawl hanesyn difyr ynghyd cherddi rhydd a hyd yn oed geiriau caneuon a ganwyd ar y daith, caneuon a fyddai'n sicr o fod wedi codi hwyl. Ond nid codi hwyl yn unig a wna'r caneuon a'r cerddi hyn, ond codi proffil diwrnod Glyndwr ac addysgu yn ogystal diddanu. Mae teitl un o'r cerddi olaf yn y gyfrol, gan Myrddin ap Dafydd yn dangos hynny, sef 'Beth yw Owain Glyndwr'. Synnais o'i darllen fod Owain Glyndwr yn gymaint o bethau gwahanol:

"Mae'n droednodyn cywydd
Ar y cwrs lefel A
Ac mae o rwbath i'w wneud
Efo tai ha'."

Wrth imi ddarllen y gyfrol, roedd sawl un o'r cerddi, yn enwedig y rhai dwys sy'n amlygu tristwch sefyllfa Glyndwr tua diwedd ei wrthryfel ynghyd thristwch ein sefyllfa ni heddiw fel Cymry Cymraeg. Roedd hyn yn ennyn teimladau cryf oddi fewn imi o ran yr anghyfiawnderau y caniatawyd i Frenhiniaeth Lloegr eu cyflawni ar y pryd, anghyfiawnderau sydd wedi cael effaith fawr ar ein bywydau ni heddiw.

Anochel felly yw gofyn y cwestiwn sut fyddai bywyd i ni heddiw petai gwrthryfel Glyndr wedi llwyddo? Yn sicr mi fyddai'r llyfrau hanes yn adrodd stori wahanol yn lle stori unochrog y Saeson fel sydd wedi digwydd am ganrifoedd lawer wedi'r gwrthryfel. Yn anffodus, serch hynny, gorfodi Owain i fynd ar herw oedd canlyniad methiant ei wrthryfel gan ei adael yn sychedu am Sycharth. Dyma englyn o gerdd Iwan Llwyd, 'Ar herw':

"O'r de dros rosdir diarth - anelai
A'r cwn hela'n cyfarth,
A thrwy'r gwyll tywyll a'r tarth
Dyma syched am Sycharth."

Wedi dyfynnu'n barod o weithiau dau brifardd, sef Myrddin ap Dafydd ac Iwan Llwyd, dyma droi ein sylw at gerddi gan y beirdd eraill sydd wedi cyfrannu at y daith a'r casgliad. Yn ogystal 'r ddau brifardd a enwir uchod, ceir prifardd arall yn eu plith sef Ifor ap Glyn sy'n adnabyddus am ei gerddi difyr a ffraeth.

Un o'm hoff gerddi o'i eiddo ef yn y casgliad, ac yn wir, un o'r rhai difyrraf yn y gyfrol yw'r gerdd 'Syr, mae'r beirdd yma eto'. Yn ogystal bod yn gerdd bellgyrhaeddol sy'n llawn o hwyl dathliadau'r daith, mae hi hefyd yn gerdd sy'n cyfeirio at y traddodiad o glera adeg Owain Glyndwr, gan ymchwilio i'r posibilrwydd y gallai Glyndwr fod wedi hen syrffedu ar orfod cynnig ei lety a'i fwyd a'i win i gyd i'r Vagabonds a Minstrals hyn, chwedl yr hen ddeddf penyd.

O glywed y gwas yn cyhoeddi fod y "beirdd yma eto...", mae'r bardd yn dychmygu Owain yn ateb fe hyn:

"Duda mod i 'di mynd
i Argos Swydd Amwythig,
i ddwyn gwartheg
ac i ail stocio hefo meirch
er mwyn diwallu gwanc penceirddiaid!"

Ymdrin y mae Geraint Lovgreen rhestr o gant o brif eiconau Cymru dros y milflwydd diwethaf, rhestr a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn y Daily Post. Nid pobl yn unig a gyfrifir yn eiconnau Cymru, gan fod Baner Cymru yn rhif un a phethau megis y capel Cymreig yn rhif 33. A chryn syndod i'r bardd yw gweld fod Myrddin ap Dafydd ei hun yn rhif 65:

"Iawn ma'n is na Shirley Bassey -
Rhif 56 'di hi -
Ond mae'n lot uwch na'r Cynulliad
Sy 'mond yn 93"

Ceir cic ddychanol y gerdd yn y llinellau olaf un gan ddangos pa mor arwynebol a hyd yn oed ystrydebol yw'r rhestr, ond ddatgelaf i ddim beth yw cynnwys y llinellau hynny, rhag difetha mwynhad y rhai ohonoch na chlywodd y gerdd o'r blaen.

Yna, fe ddown at Twm Morys, sef y bardd sy'n cwblhau'r pumawd hwn o rafins a phrifeirdd! Fel sy'n wir am heddiw, roedd miloedd o Gymry Alltud yn ennill eu bywoliaeth yn Lloegr yng nghyfnod Glyndwr. Yn ogystal hynny, roedd nifer o fyfyrwyr o Gymru ym Mhrifysgol Rhydychen ar y pryd. Ar alwad Glyndwr, mi ddaeth pob un ohonynt yn eu holau yn l y sn, gan droi'n filwyr yn y gwrthryfel. Beirdd a dynion hysbys, mae'n debyg, oedd yn gyfrifol am ddod 'r myfyrwyr hyn yn eu holau drwy gorddi'r dyfroedd yn nhafarndai'r dref. Mae'r ffaith fod y myfyrwyr yn Rhydychen yn fodlon gollwng eu plu yn eu potiau inc ac anghofio am yr astudio ar amrantiad yn dangos cymaint o gefnogaeth a oedd i achos Glyndwr. Dyma gwpled olaf y gerdd 'Myfyrwyr', o eiddo Twm Morys:

"Milwr dwi rwan. A duw dwi'n cael blas!
'Sgwn i sut hwyl gawn ni fory'n Bryn Glas."

I gloi, mae'r ffaith i Owain Glyndwr fynd ar herw a diflannu o olwg y byd wedi ei anfarwoli a'i droi'n gymeriad chwedlonol, gan roi''r gobaith inni'r Cymry y daw efallai yn ei l i ailafael yn ei wrthryfel ryw ddydd. Yn y cyfamser, mae'r gyfrol ddifyr hon yn damaid ardderchog i aros pryd.

Aneirin Karadog

cnvrule.gif (2354 bytes)

Nl i'r stydi