Creiriau'r Archif
Croeso i'r archif gyfaill. Mi wn fod y selar 'ma yn lle oer a llaith, ond coelia di fi, mae yma ddigon o greiriau ac anecdotau cynganeddol eu natur i'th gadw'n gynnes. Dyma'r lle i gadw y cynganeddion hynny sydd ar gof a chadw llafar gwlad, ond nad ydynt yn cael eu cofnodi'n unman arall o anghenrhaid. Dyma i chdi le hefyd i gofnodi englynion a chwpledi a llinellau carreg fedd / priodas / genedigaeth nas cyhoeddwyd, ac efallai hyd yn oed y cynganeddion anfwriadol estron a fu'n destun trafodaeth ddiweddar ar yr annedd. Beth bynnag, yn wir, y daw'r anheddwyr ar ei draws o ddydd i ddydd.
Beth am i chdithau ddefnyddio'r ddolen 'Cysylltu' ar y chwith i ychwanegu at ddaliadau'r archif.
Ond yn gyntaf, beth am fwrw golwg drwy'r ffeiliau.
- Daliadau 2006 ( 2 o eitemau )
- Daliadau 2005 ( 2 o eitemau )

