Gwersi Saesneg ar Gynghanedd

Argraffu PDF

"Thread" yw y gair am "ede" - a "go home"
sy'n gweud "Cerwch gartre"
"less" yw "llai" a "place" yw "lle"
a "holiday" yw "gwylie".
(Perec)

Wel, "one nail" yw "un hoelen" - ac "orange"
ydyw'r gair am "oren",
mynd "down-hill" yw "mynd yn hen"
a "potato" yw "taten".
(Tafod y To Ifanc)

"Familiar" yw "cyfarwydd" - "Noise" yw "sŵn"
a "sign" ydy "arwydd"
"slack" yw "llac", "success" yw "llwydd":
"needle" yw'r gair am "nodwydd".
(Perec)

"Reason" yw'r gair am "reswm" - "hen" yw "iâr"
a "knot" ydi "cwlwm",
"lake" yw "llyn" a "bleak" yw "llwm"
a "button" ydi "botwm".
(Tafod y To Ifanc)

"Hill" yw "bryn", "fallow" yw "braenar" - a "grouse"
yw'r gair iawn am "grugiar",
"head" yw "pen" a "hen" yw "iâr",
"God" yw "Duw", "earth" yw "daear".
(Llymbren)

I gyfrannu englyn at y cywaith hwn ewch yma

Briws ar-lein

Argraffu PDF

briws

Aelodau'r Annedd

  • 360 aelod
  • 0 heddiw
  • 1 yr wythnos hon
  • 28 y mis hwn
  • Diweddaraf: Elis Dafydd

Rhannu'r Annedd

Facebook MySpace Twitter Digg Delicious Stumbleupon Google Bookmarks RSS Feed