Meddyliau Merch

Argraffu PDF

(Fy nghariad yn meddwl amdanaf yn America)

Mewn breuddwydion aflonydd - dw i heb boen
Heb weld pant gobennydd,
Yn goresgyn, derfyn dydd
Drws oer holl drais Iwerydd

Gwreichion

Argraffu PDF

Unwaith ar ddur yr einion
bu’r gof yn creu o’r haearn
eiriau.

Lluniodd eu holl enwau,
a’u seiniau’n tasgu’n sêr
o’i forthwylio cyson.

Enwau yno’n wynias.

Pob llythyren a’i lle,
pob berf a’i gweithred,
pob cytsain a’i chaledwch,
pob ansoddair yn eirias.

Tasgodd idiom a chystrawen
o’i ffwrnais fyglyd
a meginodd ein gramadeg
â’i anadl dyner.

Ffustiodd a ffustiodd
tan
i’w hystyr droi’n darian,

a’n holl iaith yno fel llafn
finiog,
fel gwydr.

Modrwyodd ein brawddegau
a’u gosod yn haul y bore
fel mwclis arian.

Haearn ar haearn oedd ein hiaith
a’i thinc yn gân hyd yr efail –
a’i chân fu’n gwreichioni.

**********

Ond daeth terfyn i’r sŵn taro,
a’r haf a sgubwyd o’r efail.

Ei thân a’i thinc yn fudan.

Ac oerwyd gwres y geiriau;
rhoddwyd aur eu hidiom
i rwdu

a rhoi’r marwor i araf
araf
farw.

Creu lle ar y we i'r iaith

Argraffu PDF

Creu Lle ar y We i’r Iaith
("Dwi’n gwneud addewid i greu un peth bach ar-lein yn y Gymraeg ddydd Gwener 3 Medi 2010")

Gwadwn y byd digidol
yn ein hiaith llawn-edrych-nôl.
Iaith ar y gwynt, iaith ar gof,
iaith ddi-reg, iaith yr ogof,
iaith ddiwerth ei hawen
yw’n hiaith os cedwir hi’n hen.

Ond “Na!” yw’n datganiad ni
heddiw; ymrown i’w noddi
oblegid y mae blogwyr
a mil sy’n dân yn y mur,
bloedd cannoedd yn bywiocáu,
yn trydar mewn catrawdau.
Rhaid i’r hen iaith frwydro’n ôl –
Y Gad yw’r byd digidol!

Dic Jones (Eisteddfod Llanbed 2010)

Argraffu PDF