Gwersi
Mae lle yn yr adran hon i adnoddau o bob math a fydd o gymorth (gobeithio) i unrhyw un sy'n awyddus i ddechrau mynd i'r afael ag anghenion y gynghanedd.
-
Gweithio englyn gyda Wil Ifan
( 9 o eitemau )
Dyma gyfres o naw neges e-bost gan Wil Ifan a fydd yn tywys dechreuwyr gam wrth gam drwy'r broses o weithio englyn cywir. Mae'r negeseuon hyn wedi eu cymryd (a'u haddasu rhyw fymryn bach) o lawlyfr a gyhoeddwyd gan Wil Ifan yn 1948, sef Gweithio Englyn. Hwn ydy'r llawlyfr symlaf o'r holl lawlyfrau cynghanedd, ac mae'n gwbl addas i ddechreuwyr rhonc.
Os oes unrhyw gwestiynau yn codi o gynnwys y gwersi unigol, mae modd i ddefnyddwyr cofrestredig nodi eu sylwadau ar waelod yr e-byst eu hunain. Gyda lwc, fe ddaw rhywun heibio i'w hateb - gobeithio!

