Byd a Bywyd Caradog Prichard: J Elwyn Hughes

Argraffu PDF

Mewn cofnod yn ei gyfrol Afal Drwg Adda (Hunangofiant Methiant) a gyhoeddwyd yn 1973, mae Caradog Prichard yn cyfeirio at ei obaith o gael treulio llawer o’i amser yn Bryn Awel, Llanllechid ‘gan fy mod yn teimlo rhyw rin iachusol yn awyr yr hen ardal ac yn cynhesu yng nghroeso a chymdeithasgarwch ei phobol’. Ond y geiriau sy’n dilyn, a’r ebychiad wrth eu cwt, yw’r rhai allweddol – ‘Fy mhobol i!’

Er iddo dreulio’r rhan helaethaf o’i oes ymhell o’i gynefin, aeth â’i ardal a’i phobol i’w ganlyn i Gaernarfon a Chaerdydd, i’r India ac i Lundain. Dewisodd awdur y gyfrol werthfawr hon roi’r teitl ‘Y brodor yn dod ’nôl i’w Baradwys’ ar Bennod 23. ‘Brodor’, sylwer, nid alltud. Mae’r un gofal wrth ddewis geiriau a’u plethu â’r darluniau yn ei amlygu ei hun, dro ar ôl tro.

Cyfrinach llwyddiant y bywgraffiad darluniadol hwn yw diddordeb ysol yr awdur yn ei wrthrych a’i edmygedd ohono. Ond nid yw hynny’n ei ddal yn ôl rhag bod yr un mor onest agored ag y bu Caradog ei hun yn Afal Drwg Adda. Yn ychwanegol at hyn, mae’r ffaith ei fod, fel y dywed yn ei Ragair, wedi cael y fraint o adnabod Caradog a Mattie ac wedi cael ei eni a’i fagu yn Nyffryn Ogwen yn ‘gaffaeliad amhrisiadwy’. O fynd ati’n gydwybodol fanwl i grynhoi’r cyfan rhwng dau glawr, does dim rhyfedd ei fod wedi creu cyfrol sydd nid yn unig yn cyflwyno gwybodaeth ond yn apelio at y galon a’r meddwl yn ogystal.

Er bod amryw o feirniaid llenyddol wedi rhoi sylw i waith Caradog Prichard, gŵr yr un nofel, sef Un nos ola leuad, ydyw i’r mwyafrif o ddarllenwyr ac, i rai efallai, awdur geiriau hudolus 'Cân yr Afon', rhan o’r bryddest 'Y Briodas':

Mae’r daith i lawr y Nant yn hir A’r nos yn dawel, dawel, A melys, pan ddaw pelydr clir Y wawr ar frig yr awel, Fydd stelcian ennyd wrth Bont y Tŵr Yn llyn bach diog wrth Bont y Tŵr.

Yr hyn sy’n aros yn fy nghof i yw clywed Mam yn adrodd Prolog ei bryddest 'Penyd', a’r ias oer a redai i lawr asgwrn fy nghefn wrth wrando’r geiriau:

Darfu. A gwn pe trown fy mhen I geisio fy rheibiwr croch Y gwelwn o’m hôl ar obennydd wen Wallgofrwydd dau lygad coch . . .

Trwy gyfrwng y gyfrol hon, cawn gyfle i ddod yn gyfarwydd â rhagor o’i waith, yn ogystal â rhannu’r darluniau bach personol sy’n ein galluogi i ddod i adnabod y bardd, y llenor a’r newyddiadurwr, mab Jack Bach Mangl a Margiad Jên, yr hogyn o Pesda.

Eigra Lewis Roberts

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

Aelodau'r Annedd

  • 367 aelod
  • 0 heddiw
  • 0 yr wythnos hon
  • 12 y mis hwn
  • Diweddaraf: David Leslie Davies

Rhannu'r Annedd

Facebook MySpace Twitter Digg Delicious Stumbleupon Google Bookmarks RSS Feed