Y Fadarchen Hudol: Bobi Jones

Argraffu PDF

Anwybyddwch y broliant ar gefn y llyfr. Am y tro. Os oes gennych amser, pan fyddwch yn hen, i fynd i’r afael ag ymgais rhai beirniaid llên i wneud synnwyr o farddoniaeth Bobi Jones, ewch ati ar bob cyfrif. Ond am y tro, ni all yr un esboniad ynghylch ‘prosiect-oes driphlyg mewn prydyddiaeth’, ‘mater dadleuol aeddfedrwydd cariad’ na ‘myfyrdod am yr Undod o gylch yr Amryw’ daflu llawer o oleuni ar gerddi Bobi Jones – lluniwch eich dehongliadau eich hunain.

Mae angen cryn dipyn o amynedd i ddarllen y cerddi. Un peth y dylid cymryd sylw ohono ar gefn y llyfr yw’r dyfyniad o adolygiad Robin Chapman o gyfrol flaenorol Bobi Jones. Ni ellid wrth well disgrifiad o ddweud Bobi Jones na’i fod yn ‘ystyfnig emynyddol’, ac yn hynny mae ei wendid a’i wychder, ar adegau. Gall y darllenydd ei gael ei hun yn ymwthio’n drwsgl drwy’r drain o linell i linell, heb wybod i ba gyfeiriad i fynd, nac ychwaith i ba gyfeiriad yr hoffai’r bardd iddo fynd. Ond buan y deellir nad oes cyfeiriad, a buan hefyd y deuir o hyd i ambell lannerch annisgwyl, yma a thraw, o ddweud disglair. Mae ‘Portread o Wraig a Wyddai Bopeth’, er enghraifft, yn rhyddhau cipluniau greddfol sy’n darlunio’r gwrthrych i’r dim. Dyma hi:

... mewn ffrog
’Fyddai’n uwch yn y cefn nag yn y ffrynt, fel llenni
Nas caewyd yn llawn ar derfyn drama. Drama!
Pa actio byrdew?

O dipyn i beth, deuir i gynefino â dychymyg bywiog y bardd, ac o ailymweld â’r gerdd rywbryd eto yn unig y deuir i’w gwerthfawrogi o ddifrif (fel pob cerdd dda). Mae’r cwestiwn yn codi hefyd, o gerdd i gerdd, ym meddwl y darllenydd – tybed nad oedd gwên ddireidus ar wyneb y bardd adeg cyfansoddi nifer ohonynt? Mae digrifwch yn sicr ymhlyg yn llawer o gerddi’r gyfrol; mae ‘Portread o Frenin Llwyd (Ffug-Farwnad ar gyfer y deyrnged i Alan)’ yn creu darluniau ffantastig o awgrymog sy’n taro deuddeg dro ar ôl tro:

Fe’i claddwyd yn fyw gan awen ...
Tywalltwyd blodeuglwm ei hiaith ar draws
ei drawswch enwog. Ceisiai fyw’n normal ...
... fe’i claddwyd ef felly tan gread.

Dro arall twyllir y darllenydd am eiliad gan ymadrodd sydyn (‘un dydd Llŷn’, ‘sobri’n baid’), neu gan deitlau’r cerddi (‘Cathl i Ddathlu Jiwbil Aur y Frenhines Elsbeth I’, ‘Cwyn Lawen’, ‘Yn Lle Cyfrif Defaid (adeg anhunedd)’, ‘Ffin-dydd yng Ngogledd y Ffindir’), yn ogystal â theitl y gyfrol. O ddod o hyd i allwedd y cerddi, sef parodrwydd i chwerthin, gellir uniaethu â’r dweud ac ymgolli yn y difrifoldeb hefyd pan ddaw hwnnw i’w ran (darllener ‘Hanner cant arall’, ‘Rhinweddau’r Gaeaf’ a ‘Clywed Pibgod Uwchben Dineidyn’ ar bob cyfrif).

Gellid dyfynnu llond gwlad o linellau o’r gyfrol hon, pe bai gofod ac amser yn caniatáu. Yn hytrach awgrymir fod y cerddi oll yn haeddu gwrandawiad yr aelodau hynny o’r gynulleidfa a chanddynt ddigon o amynedd yn sbâr.

Eurig Salisbury

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

Aelodau'r Annedd

  • 367 aelod
  • 0 heddiw
  • 0 yr wythnos hon
  • 12 y mis hwn
  • Diweddaraf: David Leslie Davies

Rhannu'r Annedd

Facebook MySpace Twitter Digg Delicious Stumbleupon Google Bookmarks RSS Feed