Clirio'r Atig: Alan Llwyd

Argraffu PDF

Mae dau fath o fardd yn fy marn i. Yn gyntaf, y bardd sy'n dod o hyd i'w lais aeddfed yn weddol gynnar, ac sydd wedyn yn cynnal yr un math o themâu ac i raddau helaeth yr un math o arddull a safbwynt gydol ei oes. Mae'r ail fath o fardd yn fwy aflonydd, yn arbrofi gyda mesurau a themâu, gan adlewyrchu efallai ansicrwydd ac aflonyddwch y byd sydd ohoni. Fe fyddwn yn tueddu i osod bardd fel Bobi Jones yn yr ail gategori, tra bod Alan Llwyd, ac eithrio ei gyfnod ym mhersona Meilir Emrys Owen, yn gyson iawn o ran ei arddull a'i fynegiant, fel sy'n dod yn amlwg unwaith yn rhagor gyda chyfrol ddiweddaraf y bardd a'r awdur toreithiog hwn.

Fel y mae’r teitl yn ei awgrymu, mae yma elfen gref o hel atgofion ac ail-gloriannu’r gorffennol yn y cerddi hyn, ond fel gydag unrhyw broses o glirio trugareddau’r gorffennol, mae hynny’n digwydd yng ngoleuni, neu yn achos cerddi Alan Llwyd, yn nhywyllwch helbulus byd yr 21ain ganrif. Mae’r gerdd gyntaf un, sy’n rhoi’r teitl i’r gyfrol, yn ein hatgoffa o thema amlwg mewn cerddi diweddar. Wrth glirio’r atig, mae’n dod ar draws ‘teganau’r ddau o’u plentyndod dan segurdod gwe’r/ corryn, yn haen ar ôl haen, er nad plant mohonynt/ rhagor, â’r ddau wedi tyfu.’ Fel unrhyw dad, mae’n trysori’r atgofion sydd yn llenwi’r atig, ac mae am eu cadw yno, yn fythol ifanc, ond mae’n sylweddoli nad yw hynny’n bosib, a bod y ddau bellach yn oedolion yng nghanol peryglon y byd cyfoes:

Bellach, â’r ddau’n eu hugeiniau, y mae’n fyd gwahanol:
nid amser yw’r un sy’n dwyn pob plentyn o’n plith
rhagor ond rhywun â gwregys yn dynn am ei ganol,
a bomiau a gwifrau a gêr, yr eithafwr yn rhith
amser sy’n weindio’u plentyndod wrth guriad ei gloc

Mae Alan Llwyd erioed yn ingol ymwybodol o bresenoldeb marwolaeth yng nghanol bywyd, ac o gyfrifoldeb rhiant wrth eni plentyn i’r byd yr ydyn ni’n rhan ohono. Mae cerddi’r gyfrol hon yn drwm dan gysgod ein canrif newydd helbulus, o Fedi 11, 2001 i gyflafan ysgol Beslan. Ond mae yma hefyd swp o gerddi yn nhraddodiad Alan Llwyd – yn cyfarch ac yn coffáu cyfeillion a llenorion, yn cofio ac yn dathlu diwylliant a pherthynas. Ac fel erioed, efallai mai ei gerddi mwyaf ergydiol yw y rhai hynny sy’n troi delweddau o’i ardal leol yng Nghwm Tawe yn ddarluniau pwerus sy’n cyfleu gwirioneddau oesol. Ond mae hyd yn oed y darluniau hyn erbyn heddiw wedi eu paentio â lliwiau tywyll ein canrif. Dyma’r argraff a adawodd y ‘Ddau Alarch ym Mharc Treforys’:

dau alarch du yn ymddangos fel nos o’r prynhawn
gan dywyllu wyneb y llyn.

Iwan Llwyd

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

Aelodau'r Annedd

  • 367 aelod
  • 0 heddiw
  • 0 yr wythnos hon
  • 12 y mis hwn
  • Diweddaraf: David Leslie Davies

Rhannu'r Annedd

Facebook MySpace Twitter Digg Delicious Stumbleupon Google Bookmarks RSS Feed