Amser Amherffaith: Emyr Lewis

Argraffu PDF

Amser Amherffaith

Hon yw ail gyfrol o farddoniaeth y prifardd Emyr Lewis. Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf, Chwarae Mig (1995), gyda Chyhoeddiadau Barddas, ond Gwasg Carreg Gwalch oedd y dewis eleni. Newid gwasg felly, ond nid newid cywair; yn hytrach, dyma gyfrol sy'n dal i chwarae mig ac sydd, yn anad dim, yn cadarnhau safle Emyr Lewis fel un o feirdd mwyaf blaenllaw'r sîn farddol yng Nghymru heddiw, ac fel bardd caeth pwysicaf dinas Caerdydd.

Mae fformat y gyfrol ei hun yn annelwig. Ceir dwy adran, gefn wrth gefn, wyneb i waered - un gyfrol, dau glawr. Yn ôl y bardd ei hun (Taliesin, Haf 2004) mae un adran, ‘Dysgu Deud Celwydd yn Tsiec', yn cynnwys cerddi ysgafn, tra bod y llall, ‘Amser Amherffaith', yn cynnwys cerddi mwy difrifol - ‘cynlluniwyd y llyfr yn y fath fodd fel y gall y perchennog ei adael mewn modd chwaethus ar ei fwrdd coffi, heb i'r byd wybod ei fod wedi prynu'r gyfrol wirion'.

Nid awen bwrdd coffi yw eiddo Emyr Lewis, a dichon y gŵyr ef hynny - oherwydd dyma enghraifft arall o'r chwarae mig chwareus, ôl-fodernaidd a frithai ei gyfrol gyntaf. Serch hynny, anoddach yw derbyn haeriad y bardd mai ‘dwy gyfrol sydd yma, go iawn', gan mai un gyfrol flasus sydd yma mewn gwirionedd, wedi'i thorri'n ddwy ran nad ydynt yn digoni chwant y darllenydd - dau damaid boddhaol i aros pryd.

Efallai mai dyna pam y gadewir y darllenydd, o gyrraedd canol y gyfrol (a diwedd y ddwy), yn ysu am fwy. Oherwydd nid oes modd gwadu arbenigedd y canu. Dengys y bardd eto fyth ei feistrolaeth lwyr ar y canu caeth; bron nad yw ei gynganeddion yn aeddfetach yma nag yn y gyfrol flaenorol, a'i ganu'n ymddangos gymaint yn fwy diymdrech o'r herwydd (e.e. llinellau agoriadol a chlo ‘Fore Hydref Oer Rhywdro', neu'r englyn ‘2001'). Mae ei gynganeddu rhugl a'i feistrolaeth ar y cyfryw genres yn yr ochr ‘ysgafn' (yn arbennig ‘Cywydd y Lowt o Latai', ‘Kywydd Kilt Kŵl Kymru' - sydd ar adegau'n adleisio'r cywydd ‘Merched Llanbadarn' Dafydd ap Gwilym - a'i gerddi cyfarch) yn tanseilio'r dewis a wnaed i'w gosod ar wahân i'w gerddi ‘difrif' - pam cymell y darllenydd i ystyried yn ‘is-raddol' nifer o gerddi gorau'r gyfrol?

Mae'r englynion oll yn talu am eu lle - gwelir camp y bardd yn y ffaith nad yw'r hen fesur gor-gyfarwydd hwn yn mynd yn fwrn nac yn dreuliedig dan ei ofal (fel y dengys yr englyn i R. S. Thomas yn arbennig). Dyma enghraifft arall nodweddiadol:

‘Cwestiwn'

Os torra llafn swta'r lli - a'n bwrw'n
sborions, heb dosturi
i'r llawr noeth; os dryllir ni
a oes saer i'n trysori?

Gellir awgrymu, serch hynny, bod y gyfrol ar ei cholled yn absenoldeb unrhyw lun ar awdl neu gerdd gaeth hirach na'r arfer, yn arbennig o gofio ymdriniaeth lewyrchus y bardd yn y maes hwnnw yn y gyfrol flaenorol. Tafolir hynny ar y llaw arall gyda phryddest fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Bro Ogwr yn 1998. Mae rhagoriaethau'r gerdd honno'n amlwg wrth gwrs; ond ni ellir ychwaith or-bwysleisio ei phwysigrwydd, ynghyd â'r cerddi caeth sy'n ei rhagflaenu, sy'n ymdrin â pherthynas y bardd â dinas Caerdydd a'r bywyd dinesig yn gyffredinol.

Maent yn barhad ac yn ddatblygiad ar gerddi dinesig Chwarae Mig yn rhinwedd eu pwyslais digamsyniol ar y ddinas fel testun. Rhoddir arnynt hefyd arlliw mwy goddefol a gobeithiol nag eiddo'r gyfrol flaenorol (a hefyd eiddo unrhyw gasgliad arall tebyg yn y Gymraeg, o ran hynny), ac maent o ganlyniad yn gerddi unigryw yng ngwaith Emyr Lewis ac, yn wir, yn y traddodiad barddol Cymraeg - er y teimlir bod llawer mwy o gerddi i'w cloddio o fwynglawdd dinesig Emyr Lewis. Serch hynny, yn ei gerddi dinesig y clywir gwir lais y bardd, gwir natur unigryw ei lais, a gwir werth parhaol y gyfrol hon.

Eurig Salisbury

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

Aelodau'r Annedd

  • 367 aelod
  • 0 heddiw
  • 0 yr wythnos hon
  • 12 y mis hwn
  • Diweddaraf: David Leslie Davies

Rhannu'r Annedd

Facebook MySpace Twitter Digg Delicious Stumbleupon Google Bookmarks RSS Feed