Gororau'r Iaith: Jason Walford Davies

Argraffu PDF

Gororau'r Iaith

Awgryma Jason Walford Davies ar ddiwedd y gyfrol hon bod angen bathu term newydd ar gyfer R.S.Thomas, sef "Eingl-Gymraeg", i ddynodi ei berthynas agos â'r iaith a'r traddodiad llenyddol Cymraeg. Ei ddadl yw bod y bardd wedi ei ddylanwadu ganddynt i'r fath raddau fel y gellir ystyried ei waith i raddau yn fynegiant o fydolwg y diwylliant hwnnw, a'i fod yn ei dro wedi dylanwadu ar awduron Cymraeg.

Mae dylanwad llenyddol yn beth digon anodd ei drin. Ydy elfennau tebyg yng ngwaith dau awdur yn dangos bod y naill wedi dylanwadu ar y llall, neu yn hytrach bod y ddau yn tynnu ar yr un ffynhonnell? Mae'n arbennig o anodd mewn sefyllfa ddwyieithog. Ai islais o gerdd gan Alun Llywelyn-Williams ar drothwy'r ail ryfel byd sydd mewn llinellau arbennig gan R.S., neu adlais o Auden, neu a oedd y ddau fardd Cymreig wedi darllen Auden? Dim ond beirniad gyda dyfnder gwybodaeth o lenyddiaeth Gymraeg a Saesneg fel ei gilydd fydd yn medru ein harwain drwy dir corslyd dylanwadau, a byddai'n anodd cael hyd i feirniad mwy cymwys at y dasg na Jason Walford Davies. Nid yw'n patrwm addysg ni fel arfer yn ein paratoi ar gyfer y fath waith cymharol.

Mae pawb a ddarllenodd hyd yn oed ychydig o waith R.S.Thomas yn ymwybodol o'r themâu Cymreig - mae "Welsh Landscape" neu "Welsh History" a cherddi Iago Prytherch yn bresennol yn y blodeugerddi hyd at syrffed; ac yn nes ymlaen dyna gerddi yr arwisgo, neu'r gyfrol What is a Welshman?. Ond mae perygl, o gyfyngu'n hunain i themâu, inni hefyd gyfyngu ar y bardd. Nid themâu amlwg Gymreig sydd i'r mwyafrif o gerddi R.S., nac efallai i'r goreuon.

Cryfder y gyfrol hon yw ei bod yn mynd ymhell tu hwnt i'r themâu ac yn manylu ar ddelweddau ac adleisiau o lenyddiaeth Gymraeg ac ar ymadroddion sy'n tynnu ar yr iaith Gymraeg; mae'n ymchwilio i batrwm darllen R.S yn y Gymraeg ac i'w gyfieithiadau o'r Gymraeg, a'r dylanwad a gafodd y pethau hyn ar ei farddoni yn Saesneg. Gofyn hyn am waith ditectif gwreiddiol a thrylwyr. Yn annhebyg i David Jones, sydd â'i gerddi'n llawn cyfeiriadau at Y Gododdin a'r Mabinogi ac yn drymlwythog dan nodiadau esboniadol y byddai dim ond darllenydd arbenigol iawn yn medru gwneud hebddynt, mae R.S. yn addasu a defnyddio'r ffynonellau at ei bwrpas ei hun, a hyd yn oed yn ddiarwybod iddo ef ei hun ambell waith efallai. Nid oes angen troednodiadau ar y darlleniad cyntaf.

Ac felly, mae'n rhaid gofyn: er mwyn gwerthfawrogi gwaith R.S., a oes angen i ni gael yr wybodaeth sydd yn y llyfr hwn? Yr ateb, gredaf i, yw fod darllenydd Cymraeg sydd wedi darllen y llyfr hwn yn mynd i werthfawrogi gwaith R.S. mewn ffordd wahanol - tu fewn i'n traddodiad llenyddol a'n cyd-destun diwylliannol ni. Dyna bwysigrwydd cael beirniadaeth lenyddol Gymraeg, a da yw gweld y feirniadaeth honno'n ymestyn i gwmpasu gwaith R.S.

Ned Thomas

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru

Aelodau'r Annedd

  • 367 aelod
  • 0 heddiw
  • 0 yr wythnos hon
  • 12 y mis hwn
  • Diweddaraf: David Leslie Davies

Rhannu'r Annedd

Facebook MySpace Twitter Digg Delicious Stumbleupon Google Bookmarks RSS Feed