Be Bop a Lula'r Delyn Aur: Hefin Wyn

Argraffu PDF

Be Bop

Cyhoeddwyd yr adolygiad hwn am y tro cyntaf ym mhapur Y Goleuad

Mae'n rhyfedd cydnabod hynny ar dudalennau'r Goleuad o bob man, ond efallai mai yng ngeiriau hen weinidog wesle y ceir yr allwedd i thema ganolog y gyfrol ragorol hon. Mewn rhagair nodweddiadol o graff, mae Meredydd Evans yn dyfynnu eglureb ogleisiol y clywodd E. Tegla Davies yn ei thraethu o'r pulpud unwaith: "Dydi bwyta banana o India'r Gorllewin ddim yn eich gwneud yn Indiad Gorllewinol".

Yn ôl esboniad Meredydd Evans, awgrymu yr oedd Tegla y dylid croesawu dylanwadau allanol "ar yr amod eu bod yn cyfrannu at ein cynhaliaeth". Fel y dengys cronicl cynhwysfawr Hefin Wyn o ddatblygiad y canu poblogaidd Cymraeg o'r pumdegau hyd ddechrau'r wythdegau, dyna'r union her a wynebwyd gan arloeswyr y cyfrwng yng Nghymru'r delyn aur; sef rhoi gwedd Gymraeg ar y Be Bop a Lula a oedd yn ffrydio dros donnau'r Iwerydd a thonnau'r afon Merswy, a hynny ar adeg pan oedd tuedd ddealladwy i warchod y diwylliant cynhenid.

Mae'r croestynnu hwn yn gyfeiliant i'r hanes ar ei hyd fel yr adroddir ef gan Hefin Wyn. Mae i'w deimlo yn y modd y cyhuddwyd Y Blew yn y chwedegau o fod yn ‘anghymreig', mae i'w glywed yng ngeiriau T.J. Davies yn 1981 fod yr "Eisteddfod Genedlaethol yn cyflawni hunanladdiad wrth hybu a noddi yr is-ddiwylliant...", ac yn  sicr mae ei flas ar y disgrifiad o ymdrech Y Trwynau Coch i darfu ar seremoni'r cadeirio yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn 1979 trwy gynnal gig byrfyfyr o flaen pabell myfyrwyr Aberystwyth. (Gyda llaw, fel bachgen ysgol a fu'n dyst i'r brotest ac a ganfu'n sydyn iawn nad oedd eisteddfota yn brofiad mor arteithiol wedi'r cyfan, difyr iawn yw dwyn i gof ymdrechion un o golofnwyr selocaf y Goleuad i dewi cân Y Trwynau, a hynny trwy ddymchwel y seinyddion drudfawr a thynnu weiars byw ohonynt. Dyma'r union grŵp wrth gwrs oedd wedi bod mor herfeiddiol â mynnu yn un o'u caneuon eu bod eisiau "mynd i'r capel mewn levis"!)

Er gwaethaf y tyndra diwylliannol hwn, y gwir amdani, fel y dywedodd Ned Thomas, yw nad oes yna "...ddim purdeb mewn ffurfiau cerddorol na llenyddol, a'r cwestiwn pwysig i'w ofyn yw nid ‘O ble daeth y ffurf?' ond ‘Beth wnawn ni â hi?'". Ac yn sicr, hanes yr hyn a wnaed â hi yw calon yr astudiaeth hon, ac mae'r pwyslais yn amlach na pheidio ar y modd y llwyddwyd i gyfannu'r be bop a lula a'r delyn aur a chreu cynnwrf amgenach o'r briodas - o Hogia Bryngwran ac Aled a Reg, hyd at Y Dyniadon Ynfyd a'r Tebot Piws ac ymlaen at Endaf Emlyn a Geraint Jarman.

Yn hyn oll, mae trylwyredd ymchwil a manylder gwybodaeth yr awdur yn rhyfeddol. Faint ohonoch tybed a glywodd am y gystadleuaeth sgiffl arloesol a gynhaliwyd o dan nawdd Eisteddfod Môn (Niwbwrch) yn 1959? Yn wir, wrth edrych yn ôl fel hyn ar draws y blynyddoedd, yn enwedig o neuaddau gwag y degawd diwethaf, ni ellir llai na rhyfeddu at y bwrlwm a'r asbri a gynhyrchwyd yn enw canu poblogaidd Cymraeg rhwng y chwedegau a'r saithdegau, a hynny mewn cyfnod pan nad oedd sôn am S4C. Ond os oedd yna wagle o ran y cyfryngau, yr oedd ymchwydd cenedlaetholdeb yn yr un cyfnod yn rhoi awch ar y canu.

Nid y lleiaf o rinweddau'r astudiaeth swmpus hon yw dawn dweud ei hawdur. Fel pob newyddiadurwr gwerth ei halen, mae ganddo'r gallu i grynhoi'n fachog, ond fel un â chanddo hefyd reddf y llenor, y mae'n meddu ar y ddawn i greu trosiadau trawiadol yn ogystal â'r weledigaeth i hoelio sylw ar y manylyn arwyddocaol. Ychwanegwch at hynny ei barodrwydd i liwio'r testun â chyfoeth tafodiaith Sir Benfro, a dyna i chi rysáit ar gyfer arddull ddifyr a darllenadwy iawn. Mae'n disgrifio Meic Stevens fel un a "wnaeth gelfyddyd o gamdreiglo", yn sôn am Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr yn creu "cyfatebiaeth gytseiniol o'r newydd", ac yn darlunio Edward H. Dafis ar lwyfan "yn chwys drabwd stegetsh".

Dyw'r gyfrol ychwaith ddim yn amddifad o hiwmor, yn enwedig yn ei hymdriniaeth â diwylliant cynhenid hanner cyntaf y ganrif. Dyna i chi'r hanesyn hwnnw a adroddwyd gan Eirian Davies am arweinydd Eisteddfod Gwernogle, Dyffryn Tywi, yn cyfieithu ar y pryd for the sake of our English friends:
"Daethpwyd at yr Her Unawd. O fethu gwybod beth oedd ‘Her' yn Saesneg taranodd yr arweinydd o'r llwyfan ein bod wedi dod at y ‘Big Solo'. Roedd y cystadleuydd cyntaf yn canu ‘Y Marchog Dewr'. Fe'i cyfieithwyd gan yr arweinydd yn ‘Bold Stallion'. Wedyn daeth i'r llwyfan fachgen yn canu ‘Ysbryd y Gwastadedd'. O'i gyfieithu, medd yr arweinydd, ‘The Spirit Level'."

Gydag arabedd o'r fath a threiddgarwch diamheuol rhoddwyd pennod gynhyrfus o'n hanes diwylliannol ar gof a chadw. Wrth dalu gwrogaeth i Hefin Wyn am ei gymwynas, mae Meredydd Evans yn codi'r cwestiwn poenus a yw'r Gymraeg bellach yn ddigon cryf i gymhathu'r elfennau estron a pharhau'n rymus? Mae lle i ofni fod y cyflwr "dwi isio bod yn Sais" a fu ar led ymhlith nifer o grwpiau ac unigolion y cyfnod diweddar yn awgrymu nad ydyw. Os felly, mae gwir angen ysbrydoliaeth y llyfr hwn.

Aelodau'r Annedd

  • 367 aelod
  • 0 heddiw
  • 0 yr wythnos hon
  • 12 y mis hwn
  • Diweddaraf: David Leslie Davies

Rhannu'r Annedd

Facebook MySpace Twitter Digg Delicious Stumbleupon Google Bookmarks RSS Feed