Yn Fy Lle : Karen Owen

Argraffu PDF

Ers rhai blynyddoedd bellach, un o’r beirdd sy’n cael ei chrybwyll amlaf pan fo beirdd a sylwebyddion yn trafod darpar enillwyr prif gystadlaethau barddol y Brifwyl yw Karen Owen, bardd sydd eisoes wedi ennill cadeiriau a gwobrau lu mewn eisteddfodau mawr a bach ar hyd a lled Cymru.

Merch o ddyffryn Nantlle yw Karen, ac mae’r gyfrol hon yn solet yn nhraddodiad barddol a llenyddol y dyffryn hwnnw, a bro’r chwareli’n gyffredinol, traddodiad sydd wedi cynhyrchu beirdd a llenorion mor bwysig i’n diwylliant â T. H. Parry-Williams, R. Williams Parry a Kate Roberts. Ac mae Karen, fel y ddau gefnder amryddawn, wedi treulio ei chyfnod yn prifio fel bardd yn meistroli'r mesurau caeth a rhydd, ac mae hynny'n rhoi amrywiaeth deniadol i gynnwys y gyfrol hon. Yn wahanol i nifer o feirdd y to ‘iau’, mae Karen yn mwynhau dewis a dethol ei mesur yn ôl y pwnc a’r achlysur, yn hytrach na glynu’n ormodol at y caeth neu’r rhydd.

Fel y mae’r teitl yn awgrymu, mae’r cerddi hyn ar y cyfan wedi eu hysbrydoli gan bobol a diwylliant ei bro enedigol, ac mae llawer wedi eu hysbrydoli ac yn drwm dan ddylanwad cefndir llenyddol yr ardal, weithiau o ran testun, fel y gerdd i Winni Ffinni Hadog, creadigaeth liwgar Kate Roberts, a thro arall o ran arddull a mesur, ac mae dylanwad rhigymau T. H. Parry-Williams yn amlwg yma. Ond rhaid peidio ag anghofio'r dylanwad mawr arall ar waith Karen Owen, sef ei chyfnod fel newyddiadurwr a golygydd gyda’r cylchgrawn Golwg. Mae ei llygad newyddiadurol praff yn arbennig o drawiadol yn y cyfresi o gerddi yn cofnodi teithiau i’r Aifft (‘Tywod’), ac i ynysoedd Gorllewin yr Alban (‘Ynysoedd’), cyfresi a ddaeth yn agos at gipio prif wobrau’r Brifwyl. Ond efallai mai’r gyfres o gerddi mwyaf trawiadol ac unigryw yn y gyfrol yw’r gyfres yn cofnodi’r profiad o dreulio diwrnod yn begera ar Stryd Fawr Bangor, cyfres sydd eto’n dyst i’w llygad newyddiadurol, ‘Cerddi’r Begar Bach’. Dyma ddisgrifio ei phrofiad o sylwi ar gyn-athro yn cerdded heibio:

‘Ond dydi Syr ddim yn gallu adio heddiw;
mae un ac un yn gwneud rhywun arall
ac, wrth i’r siaced sgwarog gerdded heibio i fegerwr tlawd,
swm yr holl ofod rhyngom ni
ydi dim.’

Mae’r gerdd hon yn rhoi blas o naws lafar, uniongyrchol y cerddi, sydd eto’n tynnu ar etifeddiaeth y dyffryn, ac mae ei meistrolaeth o’r gynghanedd yn ei galluogi i ganu’n gynnil ac i dynhau'r darnau mwy rhyddieithol. Yn sicr mae’r gyfrol hon yn ategu pam y crybwyllir enw Karen Owen wrth drafod pwy fydd yn codi ar ddydd Llun neu ddydd Gwener y Brifwyl.

Iwan Llwyd

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

Aelodau'r Annedd

  • 367 aelod
  • 0 heddiw
  • 0 yr wythnos hon
  • 12 y mis hwn
  • Diweddaraf: David Leslie Davies

Rhannu'r Annedd

Facebook MySpace Twitter Digg Delicious Stumbleupon Google Bookmarks RSS Feed