Gwaith Madog Dwygraig: Huw Meirion Edwards

Argraffu PDF

O dan Hywel Ystorm yn y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, ceir hyn:

"bardd sy’n rhannu gyda Madog Dwygraig y bri, neu’r anfri, o fod wedi canu llawer o’r cerddi dychan ffieiddiaf yn yr iaith Gymraeg..."

Ac mae Huw Meirion yn ei ragymadrodd i’r gyfrol hon yn dyfynnu’r ysgolhaig Chotzen yn sôn am ‘eirfa ffiaidd’ y ‘clerwr’ Madog Dwygraig. (Mae’n swnio’n waeth yn Ffrangeg: tud. 3!) Pan es i ati fy hun yn fyfyriwr ymchwil ifanc i godi cwr y llen ar ganu dychan Madog ac eraill yn Llyfr Coch Hergest, rhybuddiwyd fi y gallai wneud niwed parhaol i’m henaid! Dyma pam yr anwybyddwyd y bardd cwbl arbennig hwn, ac na chafwyd golygiad call o’i waith cyn hyn. A dyma pam hefyd mae ei lais yn ein taro fel un gwahanol a newydd.

Bardd o ardal y Bala oedd Madog Dwygraig, yn canu yn ail hanner y 14eg ganrif, yn gyfoeswr, ac efallai yn gyfaill, i Iolo Goch. Mi ganodd awdl foliant i Hopgyn ap Tomos, y gŵr a berodd sgrifennu Llyfr Coch Hergest, ac yn y Llyfr Coch y cadwyd pob peth o’i waith sydd wedi aros, sef 17 o gerddi yn null y Gogynfeirdd. Cerddi dychan ydi naw o’r cerddi rheini, ac ambell un, fel y Dychan i Fab y Gof (rhif 13), ac Ystoria Ddeicyn (rhif 14) yn dangos rhyw ddiddordeb cymdeithasegol ‘Chauceraidd’ bron. Ond fel mae’r golygydd yn awyddus inni werthfawrogi, mae canu Madog yn ‘cwmpasu prif genres ei gyfnod, ac eithrio’r canu serch...’

Mae ei awdl i Grist, a’i englynion i Iesu yn perthyn i ‘brif ffrwd canu crefyddol y cyfnod’. Ond mae ganddo hefyd ddwy awdl gyffes, ac yn un o’r rheini, yn null personol y ‘farwysgafn’, neu’r gyffes wely angau, mae Madog yn edifar iddo ganu ‘maswedd’ a ‘gorwacter’. Gallai ganu yn gyfareddol iawn: ‘Lliw arien ydiw, eiry yn odi’ (‘lliw barrug ydyw, eira’n disgyn’), meddai am Lleucu, gwraig Morgan ap Dafydd o Rydodyn, a ‘llathraid liw huan ar wynllethri’ (‘lliw heulwen lachar ar lethrau gwynion’). Ond ‘gwrach egored gyffredin’ oedd rhyw greadures arall, ‘gwrach garth, gwrach a tharth o’i thin’.

Mae elfen storïol gre’ ddafydd-ap-gwilymaidd yn llawer o’i ganu, yn enwedig yn ei awdl i lo dwy a dimai a gafodd yn rhodd yn lle ych (rhif 10), ac yn ei awdl i ryw Faald (rhif 9) a ysbeiliodd ei goeden afalau. Mae ehangder ei ddysg farddol yn amlwg, ac mae’n hoff o barodïo dulliau’r canu mawl ac o led-ddyfynnu’n gellweirus o hen gerddi adnabyddus. Mae’r awdl i Maald, er enghraifft, yn parodïo Afallennau Myrddin yn feiddgar iawn.

Mae rhagymadrodd a nodiadau testunol Huw Meirion yn drylwyr iawn ac yn ddifyr. Mi fydd ei aralleiriadau di-lol yn plesio’r sawl sy’n hoffi aralleiriadau, ac mae’r maswedd a’r difyrrwch yng nghanu Madog sydd mor niweidiol i’r enaid yn siŵr o wneud y gyfrol hon yn un o’r rhai mwya’ poblogaidd yn y gyfres.

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

Aelodau'r Annedd

  • 367 aelod
  • 0 heddiw
  • 0 yr wythnos hon
  • 12 y mis hwn
  • Diweddaraf: David Leslie Davies

Rhannu'r Annedd

Facebook MySpace Twitter Digg Delicious Stumbleupon Google Bookmarks RSS Feed