Ar achlysur cyhoeddi 'Pethe Achlysurol'

Argraffu PDF
Darllenwyd yn ystod noson lansio'r gyfrol Pethe Achlysurol

Â'r iaith mor fyw o rithiol yn niwyg
y newydd digidol,
yn ddi-os, fe fydd ei ôl
yn hir, anachlysurol.

Hwn, â'i awen ysblennydd, ei enaid
a rydd inni beunydd
ac i ni mewn gwisg newydd
y daw hwn â iaith ein dydd.

Ei eiriau am boenau'r byd a gawn ni
yn gân wâr ddisyfyd,
yn ifanc ei ffordd hefyd
y Di-lycs sy'n dal o hyd.

Aelodau'r Annedd

  • 367 aelod
  • 0 heddiw
  • 0 yr wythnos hon
  • 12 y mis hwn
  • Diweddaraf: David Leslie Davies

Rhannu'r Annedd

Facebook MySpace Twitter Digg Delicious Stumbleupon Google Bookmarks RSS Feed