Lloches

Argraffu PDF

Haf 1404 

i

“Daeth dau yma ar daith,
dau’n dalog a lliwiau’r haf ar eu talcen,
eu siarad mawr a’u chwerthin mwy
yn cymell cŵn i gyfarth croeso.

Dônt drwy’r Porth Mawr
a bwrlwm Dyfrdwy yn eu camau bras.
Dônt â’u lafant i Ŵyl Ifan,
a’u hana’l twym yn gusanau.

Daw’r ddau yn ddawns, yn llond haf o wenau,
ac un â’i wallt golau’n eithin o heulwen.

Y ddau’n gywyddau i gyd,
yn sôn am dwrw Awst ac am daro nôl,
am hebog a chân ehedydd a throi’r haf yn wrthryfel.

Dônt â’r awel i’w canlyn,
ond mae cynnen yn eu cân a’u cennad.
Mae perwyl arall i’w llygaid chwim a’u hysgwyd llaw.

Rhwng y cwrw bach, y bara ŷd a chau’r drws
mae sibrydion, a siarad dynion
am hogi arf a dilyn ffrwd,
am warchod ffin a chodi caer ac am ennill tir.

Yna, daw’r haul yn ôl i’r eithin yn fflyrt
ac meddai’r gwallt melyn, wrth i’w haf afael yn dynn amdanaf,
‘Un i ladd yw cleddyf’,

a than odre anniben y drws derw clywaf ‘sgyrnygu’r cŵn.”  


 ii

Mae ‘na fflam a llanc yn llamu
dros dân ganol haf i fynwes gynnes gu,

ac yna’u gwahanu, cyn eu gosod ar gwrs gwyllt
o gwmpas cysgod y fedwen fawr;

y hi ar y blaen a’u gwadnau bach
yn sgwaru’r llwch yn gymylau llwyd

ac yntau â’i wallt melyn yn un llwyn afrosgo
bron â’i dal ond yn colli’i afael bob tro,
cyn blino a chwympo’n llwyth
i freichiau ei gilydd dan olau lleuad arian,
yn goelcerth o chwerthin.

Dau gorff llonydd a dwy galon yn curo’n gynt
na charnau meirch ar ffo.

Dau gorff yn cyffwrdd a chanfod gwefusau’i gilydd
yn gusan a chusan arall.

Dau gorff yn cyffwrdd yn glos
ac yna’n agosach tan eu bod yn glwm, ac yn ddeuddyn clyd.

Law yn llaw, yn ddistaw bach
codant y glicied a chamu’n un ana’l dros drothwy,
cyn cau’r drws yn dirion ar eu caru.

A thu fas yn dawel di-alaw
cwymp y petalau melyn a sodrwyd rhwng yr estyll
i gadw drwg o’r tŷ i’r llawr, i’r llwch.


iii

Mae ‘na sôn am grogi a’r hin yn troi.
Llymach yw’r awel sy’n troi’r haf o’r pentrefi,
a’r gwacter ar ei ôl yn drwm fel cromlech.

Bu brad yn y sibrydion,
a milwyr yn un gyr ddaeth i guro,
i ladd haf a’u cleddyfau.

Dod yn daran, yn un ras trwy ein drysau;
yn ffagl a ffustiad a phoer a sôn am ffycars.
Yn rhoi cic lle bu clicied a throi’r nos tu chwith allan.

Dod yn derfysg i lusgo un yn noeth dros drothwy
a’i gydynnau melyn wedi’u plethu’n dynn rhwng eu dyrnau.

Mae ‘na sôn am godi sgaffalde
a chlymu sach a’i llond o swnd
a’i rhoi i gwympo rhag i’r colfachau fachu.

Mae sawr tyrfe hyd y meysydd a’r eithin yn anniddig.
Mae disgwyl am godi clicied,
am sgrech colfachau ac am sgaffalde’n sugo.   

A daw’n fellten, drwy’r ŷd yn drydan
a’i frath yn chwythu dail a phetalau dros drothwy,
yn troi’r haf o’r cartrefi.


iv

“rho edau imi frodio yn ysgafn y wisg sydd yn breuo,
a’r rhwyg sydd ynddi a rho reswm i mi ei thrwsio.

ga’i lys i drin ei gleisie, ga’i eli i geulo’r holl glwyfe
a nodd o flode’r cloddie yn falm ar ei ruddie fe.

rho’r haf yn nŵr yr afon a’i liwiau i loywi’r awelon.
rho’r oed lle bu cariadon a rho’r hawl i’r ddaear hon.

ga’i ddail i wisgo’i ddolur, a’i gydio i’w gadw rhag gwewyr.
ga’i gerdd i mi leddfu’i gur, ga’i gusan iddo’n gysur.

rho’r camau nôl ar y comin, llonna bob llannerch â’i chwerthin;
rho’i wres hyd y llwybrau crin a’i iaith ym mlode’r eithin.

tro’r awel uwch yr heli i ennyn y fynwes sy’n oeri,
dod adenydd o dani yn dyner i’w hadfer hi.”  


v

“mi wn er ei grogi mud, haf eilwaith sy’n gafaelyd;

daeth ei iaith yn ôl i’r eithin,
daeth ei wadne eto i droedio llwybrau’r dail yn y dydd.

gwelaf grwt a’i wallt melyn yn rhubanau o gylch y fedwen
ei lygaid glas yn wybren heb orwelion

fe dyf yntau i’w gynefin cyn hir
ac i glywed yr eos rhwng nos a nant
i ddilyn afon rhwng y cwm cul
a bwrw’i chwerthin i byllau’r brithyll
i drin cae a gosod argae a rhoi nod ar ddiadell

a gwn, er fy ngwaetha’, y caiff yntau ei hudo gan gân ehedydd,
a daw ei dro i godi caer ac ennill tir.

ond yr haf sy’n oedi heno
a chlywaf ddawns dwy esgid,
eu rhedeg yn llawn direidi,
a chysgod un arall yn dynn am y sodle.

daw drwy’r ŷd yn drydan,
a gwn na fydd iddo fraw o godi clicied ac agor drws,
na rhuthr haf dros drothwy.”

Aelodau'r Annedd

  • 367 aelod
  • 0 heddiw
  • 0 yr wythnos hon
  • 12 y mis hwn
  • Diweddaraf: David Leslie Davies

Rhannu'r Annedd

Facebook MySpace Twitter Digg Delicious Stumbleupon Google Bookmarks RSS Feed