Mae'r gorwel ar dân...

Argraffu PDF

Mae’r Clyde yn llifo’n dawel i’w chrud
a Glasgow yn chwyrnu ym mreuddwyd Awst,
yn suo i gysgu, a’r noson mor fud
tra bo'r gwdihŵ yn gorwuchwylio o’i thrawst,
ond mae gwydr yn malu yn nherfysg fy nghân
a Llundain yn llosgi a’i thoeau ar dân.

Mae’r cof o fwledi mor fyw ag erioed
yn Shankill a chysgodion y stryd yn hir
ond heno ni chlywir dim ond pêl-droed
a’i ergydion trwm yn diasbedain o’r mur.
Ond matsien heb gynnau sy’n llygaid y plant
ym Manceinion a flatscreens yn tanio eu chwant.

Mae Heol Santes Fair yn oeraidd o wag
ac mae hiraeth am derfysg y cerrynt o goch
a does dim i’w glywed ond sibrwd Cymrâg
a hiraeth am glywed hyms and arias yn groch.
O dawelwch fy Nghymru gofynnaf paham
fod rhai yn mynnu fod Prydain yn fflam?

Aelodau'r Annedd

  • 367 aelod
  • 0 heddiw
  • 0 yr wythnos hon
  • 12 y mis hwn
  • Diweddaraf: David Leslie Davies

Rhannu'r Annedd

Facebook MySpace Twitter Digg Delicious Stumbleupon Google Bookmarks RSS Feed