Darluniau (Awdl Maes Lan: Urdd 2005)

Argraffu PDF

(Er cof am fy nhad-cu)

Yn nrâr isa’r hen ddresel
o dan haen o ddwst yn hel
y mae mil o luniau mân
– fy achau mewn cist fechan.

Cydiaf yn un o’r lluniau:
gwelais hwn pan oeddwn iau . . . .

* * * * * *

. . . . Llun baban â siôl wen amdano
a direidi wedi ei rwydo
a’i ddal fel y tedi’n ei ddwylo.

Y mae’n siarad drwy’r ddwy lygad laith
ac yn ei wên y mae hen, hen iaith:
drwy ei ’nabod daw’r wên yn obaith . . . .

* * * * * *

. . . . Yn rhesi’r bois trowser byr
mae’u Hawst yn drwm o ystyr
a’r giwed sydd yn lledu’u
gwenau dwl mewn gwyn a du:

y nhw sydd yn do newydd,
yn griw da i gario’r dydd;
criw ifanc â rhyw afiaith
i herio’r dydd, dechrau’r daith.

Tu ôl mae’r bachgen talaf
a’i wên hir mor hir â’r haf;
yr un wên yw’r wên o hyd:
un wên ym mhob un ennyd . . . .

* * * * * *

. . . . Mewn llun arall mae allwedd – a dwylo’n
ei dal rhwng y bysedd;
yn ddyn mor wyn ei ddannedd,
oes drwy’r ardal gystal gwedd?
Daw imi stori’i dymor – daw adeg
dod o hyd i drysor
ei wynfyd ef gan fod dôr
un ar hugain ar agor . . . .

* * * * * *

. . . . Un eiliad yn yr heulwen:
ymyl ei siwt yn gymen,
rhes o fwclis a gwisg wen.

Dan heulwen Mai yn gwenu
dwy wên sydd mewn gwyn a du,
dwy wên sydd yn cyd-dynnu,

dwy wên a’u ffrwd o ynni
ar ddiwrnod eu priodi
sydd yn llifo yno’ i . . . .

* * * * * *

. . . . Llun gwr sydd yn llawn o gariad – a’i fab
yw ei fyd o’r cread:
y dyn sydd bellach yn dad
a’i rôl yw tendio’r eiliad . . . .

* * * * * *

. . . . Yn y llun mae dyn llonydd
a’i wallt yn wyn derfyn dydd
a dau wyr o’i ôl yn dod
a’u hwynebau’n adnabod
y dyn a wena’n dyner:
mae ei wên yn nwfn eu mêr.

A’r ddau lanc, mor ifanc ynt,
hadau o’i ddwylo ydynt:
hadau’r hil a’u hyder hwy’n
egino ar gae’r gwanwyn.
Rhain yw egin ei linach,
rhain yw dyfodol yr ach.

Ond dau lanc rhy ifanc ynt,
hadau rhy fychan ydynt
i lwyr ystyried, hwyrach,
rymusedd eu bysedd bach.
Y mae’r llun, O!, mor llonydd
a’r gwallt mor wyn derfyn dydd . . . .

* * * * * *

. . . . Yma’n nrâr tywylla’r ty
hen luniau fu’n melynu
a daw niwl rhyngom hyd nes
melynu ymyl hanes.

Ond mil eiliadau melyn
sy’n dal fy hanes yn dynn:
yn dal y cof, yn dal cân
fy achau mewn cist fechan
o dan haen o ddwst yn hel
yn nrâr isa’r hen ddresel.

Aelodau'r Annedd

  • 367 aelod
  • 0 heddiw
  • 0 yr wythnos hon
  • 12 y mis hwn
  • Diweddaraf: David Leslie Davies

Rhannu'r Annedd

Facebook MySpace Twitter Digg Delicious Stumbleupon Google Bookmarks RSS Feed