Rhwng Dau Olau: Casgliad o gerddi

Argraffu PDF

I’r Dafarn yn Eifionydd

Hen gaer i adloniant gwerin – yno’n
Llawn enaid a rhuddin
Pob hanes ers Taliesin
Yn gaeth yn y gwydrau gwin.

Yn y gwin, a’r nos yn gaeth,
Yno i noddi llenyddiaeth
Ein gwerin a thylino
Twrw a chân y tri cho’
I hen ddail ein meddyliau
Y mae’n Cof, sydd ddim yn cau.
Mae hen fri cymanfa’r wawr
Yno boed haf neu Ionawr;
Yno’n aur hen greiriau’r gwres,
Yn y gân sy’n y Guinness
A ni, hen gewri’r geiriau
Yn nwfn y nos o fwynhau
Yn barod ein tafodiaith –
Gyforiog, gyhyrog iaith.

Eiliadau

dwi’n cofio edrych ar y môr
a’i ysgwyd diog yn niwedd haf –
ei donnau araf yn un côr
a ganai hen ganeuon braf
llawn o gariad hen fwynhau
penchwiban cwpwl yno’n hau
hadau’u cariad fesul dau
a’u halawon tyner;

cofio’r swyn ym mhlygiadau blêr
ein dillad ar y nos honno, noson
y weithred atgyrch dan gusanau’r sêr,
y goflaid honno’n dwyn dwy galon
ynghyd dan olau lleuad gwyn;
ni’n dau yn un a’r môr ynghyn
ag atgof machud a melodïau tynn
yn nechrau’n hamser.

Colli Iaith
(yn fuan ar ôl y noson pan oedd Corwen dan ei sang o Gymry Aelwyd, clywais raglen weiles yn sôn am dranc y Gymraeg yn y dref)

Un noson yw hon i ni – yn y dref
Heb dranc yn ein poeni,
Ond heniaith sy’n dihoeni
Un nos oer o’i chwmpas hi.

Mae tafarn Corwen heno – yn y gwyll
Yn gaer a saif yno
Heb un cliw am boenau clo
Heniaith na wnaiff ddihuno.

Dal y Wawr
(i gofio Islwyn Ffowc Elis)

Llenni dros lais y llenor
A ddaeth, ac wrth gau y ddôr
Ar y corff mae’n amser cau
Sŵn hanes a hen enwau
Wedi’r enbyd, hir, henboen
Mewn bedd. Ac â minnau’n boen
I gyd wedi’i golli’n gawr
Rhynnaf a gwylio’r henwawr
Yn euro bore arall.

Ond mae’r wawr yn wawr na all
Aros yno i’w thrysori
Ar hyd ein hoes. Rhaid i ni
Ddal y wawr a’i gwaddol hi
A’i throi’n aruthr inni.

Digon sibrwd brwd ein brys
Yn eirwych o alarus
A dau fyd y dyfodol
Yno a’u her yn sibrwd nôl?


Eigion mewn calonnau...

Llain a môr sy’n y llun mud.
Afon, ac awyr hefyd. . .

Yn y llun, heb un bêl,
Y tywod gorwyn tawel
Yn llonydd a’i holl haenau
Yn dir heb gyffyrddiad dau.

Mae’r ifainc? Lle mae’r afiaith?
Lle mae’r ddau’n mwynhau mewn iaith
Lawn o nwyd difarwydos –
Iaith cariad annirnad y nos?

Nid yw hwn ond darlun dall
Na ŵyr am ochor arall.

*

Yn fan hyn y cofiaf ni –
Dau enaid mewn cadwyni
O gariad pur a’n geiriau
Yn dynn rhwng gwefusau dau.

Sibrwd gwan rhwng cusanau
Oedd ein sgwrs, un ddoe, nes cau’r
Drws ar bob un melltith draw.
Daliem yn chwys ein dwylaw
Holl wefr a ias berw’r lli –
Dau enaid yn ymdonni.

Y sôn dwfn yn sain y don
Yn rhwydwaith o sibrydion:
Y glas yn atgo’ o leisiau
A’i dwrw yn dwrw dau.

Ni’n dau yn ifainc, ni’n dau yn yfad
A ni yn llywio llwybr y lleuad,
Ni yn oleuni ar wlad ddi-angau
A ni a’n geiriau yn ias o gariad.

*

 llun o dywod a lli
Yn haearnaidd ei oerni –
Heb lun disgleirdeb y lan –
Y cof sy’n llywio’r cyfan.

Y cof hwnnw’n cyfannu
I fôr y cariad a fu
Ac eigion y calonnau
Yn dal, er gwahanu dau.

Aelodau'r Annedd

  • 367 aelod
  • 0 heddiw
  • 0 yr wythnos hon
  • 12 y mis hwn
  • Diweddaraf: David Leslie Davies

Rhannu'r Annedd

Facebook MySpace Twitter Digg Delicious Stumbleupon Google Bookmarks RSS Feed